Beth yw Cam-drin Domestig?
Cam-drin domestig yw unrhyw drais rhwng partneriaid neu gyn-bartneriaid sydd mewn perthynas agos. Gall y trais fod yn gorfforol, yn rhywiol, yn emosiynol neu'n ariannol, gan gynnwys bygythiadau a difrod.
Corfforol - curo, cicio, slapio, dyrnu, llosgi, tagu, trywanu, gwrthod gadael i rywun gysgu.
Rhywiol - trais, gorfodi rhywun i gael rhyw neu buteindra, pornograffi, neu unrhyw ymddygiad neu weithgaredd rhywiol sy'n annerbyniol i chi.
Emosiynol - cenfigen, cywilyddio, diraddio, beirniadu systematig, bychanu, peri ofn, ynysu rhag teulu a ffrindiau, gwrthod cael rhyw, bygythiadau neu hunanladdiad.
Llafar - cam-drin geiriol, ymateb yn ymosodol neu'n bygwth niwed.
Ariannol - gwrthod rhoi arian neu'n tynnu arian allan.
Mae cam-drin domestig yn broblem ddifrifol a chyffredin, er ei fod yn aml yn cael ei guddio o fewn y teulu. Mae'n digwydd ym mhob cymdeithas beth bynnag yw'r rhyw, ethnigrwydd, dosbarth, cenedligrwydd, crefydd, cefndir diwylliannol, anabledd, statws priodasol, oedran neu gyfeiriadedd rhywiol.
Bydd 1 o bob 4 merch ac 1 o bob 6 dyn yn dioddef cam-drin domestig rhywbryd yn eu bywydau. Mae dynion yn ogystal â merched yn dioddef ac mae hefyd yn effeithio ar berthnasau o'r un rhyw.
Mae'r gyfraith yn cynnwys ymddygiad o reoli a gorfodi rhywun o fewn diffiniad cam-drin domestig ac mae'r diffiniadau hyn hefyd yn cynnwys trais ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod a phriodasau dan orfod.
Mae Cyngor Sir Powys ar hyn o bryd yn gweithio ar strategaeth i atal cam-drin domestig ac i helpu'r rhai sy'n dioddef a'r rhai sydd wedi bod trwyddi. Mae hwn yn y cyfnod ymgynghori.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau