Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Ble alla i gael help gyda cham-drin domestig?

Os ydych chi neu unrhyw un ry'ch chi'n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, yna man cychwyn da am gyngor yw llinell gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn: 0808 8010800 

SAFLE GADAEL

Mae asiantaethau lleol y gallwch fynd atynt hefyd yn cynnwys:

Heddlu Dyfed Powys

Mae cam-drin domestig yn drosedd, ac mae'r risgiau'n uchel, os ydych mewn perygl ffoniwch 999.

Mae heddlu Dyfed-Powys hefyd yn gweithredu "cyfraith Clare" cynllun sy'n rhoi'r gallu i bobl ddarganfod a oes gan eu partner, neu bartner posib neu bartner aelod o'r teulu/ffrind hanes o gam-drin neu drais. Gallwch gael rhagor o fanylion am y cynllun hwn ar eu gwefan.

 

Canolfan Argyfwng Teuluoedd Sir Drefaldwyn (MFCC)

Mae MFCC yn darparu llochesi a gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr yng Ngogledd Powys (Y Drenewydd, Y Trallwng a Machynlleth)

Gallwch gysylltu â MFCC ar:

Y llinell gymorth argyfwng 24-awr 01686 629114

Mae'r swyddfa ar agor rhwng 9 a 4 yng Nghanolfan Integredig Teuluoedd Y Drenewydd, Heol y Parc, Y Drenewydd, Powys, SY16 1EG.

Gellir gwneud ymholiadau cyffredinol trwy ffonio 01686 629114 neu e-bostio: admin@familycrisis.co.uk

Gwefan MFCC

Calan DVS

Mae Calan DVS yn darparu llochesi a gwasanaethau i ddioddefwyr a goroeswyr yn Ne Powys (Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais). Calan DVS sy'n darparu Rhaglen Gwrando a Chlywch Fi.

Gallwch gysylltu â'ch Calan:

01874 625146

Yn eu swyddfa: Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu LD3 7HP

https://www.calandvs.org.uk/en/contact/ neu drwy e-bost gan ddefnyddio enquiries@calandvs.org.uk

Gwefan Calan DVS

Gofyn i mi (Ask Me)

Prosiect a ddechreuwyd gan Women's Aid yw Ask Me. Mae'n datblygu rhwydwaith o Lysgenhadon Ask Me sy'n gallu darparu cymorth a chyngor i ddioddefwyr a thrigolion eraill y mae cam-drin yn y cartref yn effeithio arnyn nhw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn llysgennad 'Ask Me' gallwch gael gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi lleol trwy e-bostio askme@womensaid.org.uk.

Mae rhagor o wybodaeth i'w chael ar wefan Cymorth i Fenywod

Gwasanaethau Tai Cyngor Powys

Gall staff tai drafod eich opsiynau tai gyda chi. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i rywle diogel i aros yn ogystal â'ch helpu i gynllunio ar gyfer y tymor hir.

Cysylltwch â ni a byddwn yn asesu eich sefyllfa ac yn gwneud y gorau i ddiwallu eich anghenion.

Rhagor o wybodaeth ar ein tudalennau gwe tai.

Fe welwch fwy o wybodaeth :  Gofynnwch am Gymorth am Ddigartrefedd

Sefydliadau cenedlaethol sydd hefyd yn gallu helpu:

Cymorth i Fenywod Cymru - Ffôn 0808 8010800 / Gwefan Cymorth i Fenywod Cymru

Llinell gymorth Trais Domestig Pwylaidd - Ffôn 0800 061 4004 / E-bost: info@polishdvhelpline.org

Network for Surviving Stalking - Ffôn 0808 8020300 / E-bost:advice@stalkinghelpline.org

Llinell gymorth Genedlaethol i Ddynion - Ffôn 0808 801 0327 / Gwefan Llinell gymorth Genedlaethol i Ddynion

Galop: Gwneud bywyd yn ddiogel, teg a chyfiawn i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol  - Ffôn  020 7704 2040 / Gwefan Galop 

The Survivors Trust - Ffôn 0808 8010818 / Gwefan The Survivors Trust

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu