Ble alla i gael help gyda cham-drin domestig?
Os ydych chi neu unrhyw un ry'ch chi'n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, yna man cychwyn da am gyngor yw llinell gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn: 0808 8010800
Ymysg yr asiantaethau lleol y gallwch gysylltu i ofyn am gymorth mae:
Heddlu Dyfed Powys
Mae cam-drin domestig yn drosedd ac mae'r risgiau'n uchel. Os ydych chi mewn perygl, galwch 999.
Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd yn defnyddio cynllun "cyfraith Clare" lle mae pobl yn gallu gofyn a oes gan bartner, neu bartner posibl, neu bartner aelod o'r teulu / ffrind hanes o gam-drin neu drais. Gallwch wybod mwy am y cynllun hwn yma
Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn
Mae'r Ganolfan hon yn cynnig lloches a gwasanaethau i ddioddefwyr a'r rhai sydd wedi dianc o drais yng ngogledd Powys (Y Drenewydd, Y Trallwng a Machynlleth).
Gallwch gysylltu â'r ganolfan fel a ganlyn:
- Llinell gymorth 24 awr mewn argyfwng 01686 629114
- Mae'r swyddfa ar agor rhwng 9 tan 4 yn Nhŷ Canol House, Ffordd Croesawdy, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL.
- Ar gyfer unrhyw ymholiadau cyffredinol ffoniwch 01686 629114 neu e-bostio : admin@familycrisis.co.uk
- Eu gwefan Canolfan Argyfwng Teulu Maldwyn
Calan DVS
Mae Calan DVS yn cynnig lloches a gwasanaethau i ddioddefwyr a'r rhai sydd wedi dianc o drais yn ne Powys (Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais)
Gallwch gysylltu â Calan DVS fel a ganlyn:
- 01874 6251469
- Yn eu swyddfa: Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu LD3 7HP
- Dros e-bost ar http://www.calandvs.org.uk/contact-us
- Eu gwefan Calan DVS
Hafan Cymru
Mae Cyngor Sir Powys wedi dyfarnu contract i Hafan Cymru i benodi Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig i gynnig cyngor, gwybodaeth a chymorth i'r rhai sydd mewn perygl sylweddol o gam-drin domestig. Bydd dioddefwyr yn cael eu hatgyfeirio gan yr heddlu, gan wasanaethau cymdeithasol a'r awdurdod iechyd.
Mae Hafan Cymru hefyd yn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno'r prosiect Sbectrwm mewn ysgolion.
Gallwch gysylltu â Hafan Cymru fel a ganlyn:
- Ffonio (01874) 620030 neu (01597) 827996
- Yn eu swyddfa: Ystafell 5, Steeple House, Steeple Lane, Aberhonddu LD3 7DJ, neu'r Old Grosvenor Bakery, Wellington Road, Llandrindod, Powys LD1 5NF
- Dros e-bost: enquiries@hafancymru.co.uk
- Eu gwefan Hafan Cymru
Ask Me
Prosiect yw 'Ask Me' a sefydlwyd gan Gymorth i Fenywod i ddatblygu rhwydwaith o lysgenhadon 'Ask Me' fydd yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor i ddioddefwyr a thrigolion eraill sy'n dioddef o gam-drin domestig.
Os fyddai gennych ddiddordeb mewn dod yn llysgennad 'Ask Me' gallwch ofyn am gyrsiau hyfforddi lleol trwy anfon e-bost at: askme@womensaid.org.uk.
Fe welwch fwy o wybodaeth : 'Ask Me'
Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Powys
Bydd staff gwasanaethau Tai'n gallu trafod opsiynau tai gyda chi. Gallwn eich helpu chi gael rhywle diogel i aros a chynllunio i'r tymor hir.
Cysylltwch â ni ac fe wnawn asesu eich sefyllfa ac fe wnawn ein gorau i ateb eich anghenion.
Fe welwch fwy o wybodaeth : Gofynnwch am Gymorth am Ddigartrefedd
Sefydliadau cenedlaethol sydd hefyd yn gallu helpu:
Cymorth i Fenywod Cymru - Ffôn 0808 8010800 / Gwefan Cymorth i Fenywod Cymru
Llinell gymorth Trais Domestig Pwylaidd - Ffôn 0800 061 4004 / E-bost: info@polishdvhelpline.org
Network for Surviving Stalking - Ffôn 0808 8020300 / E-bost:advice@stalkinghelpline.org
Llinell gymorth Genedlaethol i Ddynion - Ffôn 0808 801 0327 / Gwefan Llinell gymorth Genedlaethol i Ddynion
Galop: Gwneud bywyd yn ddiogel, teg a chyfiawn i bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol - Ffôn 020 7704 2040 / Gwefan Galop
The Survivors Trust - Ffôn 0808 8010818 / Gwefan The Survivors Trust