Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut i roi gwybod am gam-drin/esgeuluso oedolyn (Pryder Diogelu)

How to report abuse

Gallwch roi gwybod am gamdriniaeth oedolyn i Gyngor Sir Powys p'un a ydych yn weithiwr proffesiynol neu'n aelod o'r cyhoedd. Gellir gwneud atgyfeiriadau diogelu yn ddienw hefyd. 

Os hoffech gyflwyno pryder diogelu, gallwch wneud hyn gan ddefnyddio ein dolenni ffurflenni gwasanaeth ar-lein isod neu drwy ffonio ASSIST ar 0345 602 7050.

Yn unol â'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant newydd mae ASSIST bellach yn derbyn pob ymholiad. Mae hyn yn cynnwys pob atgyfeiriad mewnol ac allanol.

Os yw'n argyfwng, peidiwch ag aros - ffoniwch 999.

Mae'n rhaid i chi roi gwybod am bob adroddiad neu bryder o gam-drin yn syth. Peidiwch â cheisio datrys yr hyn a ddigwyddodd eich hun, oherwydd eich bod yn credu nad yw mor ddifrifol â hynny neu i amddiffyn cydweithwyr.

Dylai eich cyflogwr roi arweiniad i chi ynghylch sut i roi gwybod am bryderon yn eich sefydliad.

Os na allwch roi gwybod am eich pryder ar unwaith o fewn eich sefydliad, rydych yn rhoi gwybod am gamdriniaeth drwy'r sianeli canlynol:

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cynhyrchu cyfeirlyfr ar-lein sy'n caniatáu i bobl hŷn, eu teulu a'u ffrindiau, a gweithwyr proffesiynol chwilio am wasanaethau a chymorth yn hawdd yn eu hardal leol.

Gall hyn eu helpu os ydynt yn profi cam-drin, yn ogystal â manylion sefydliadau cenedlaethol allweddol a rhagor o wasanaethau arbenigol sydd ar gael, sy'n cynnig cymorth pedair awr ar hugain mewn rhai achosion.