Beth sy'n digwydd ar ôl i chi roi gwybod am bryder diogelu

Mae pob pryder diogelu ynghylch cam-drin oedolyn mewn perygl yn cael ei gymryd o ddifrif.
Gan ddibynnu ar natur eich pryder diogelu, mae'n bosibl y bydd timau amrywiol yn cael eu cynnwys. Bydd y tîm mwyaf priodol sy'n ymwneud â'r pryderon a godwyd gennych yn edrych ymhellach ar y sefyllfa, a gallwch fod yn sicr ei fod yn cael ei ystyried o ddifrif a'i ddilyn i fyny.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fyddwn yn gallu rhannu gwybodaeth bellach am y cynnydd neu'r canlyniad gyda chi. Mae pob sefyllfa yn wahanol, a byddwn yn ystyried dymuniadau'r person sydd mewn perygl neu ei gynrychiolydd a rhannu gwybodaeth gymesur, briodol er mwyn cadw pobl yn ddiogel.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod am gamdriniaeth/esgeulustod byddwn yn:
- gwrando arnoch
- ystyried eich pryderon o ddifrif
- ymateb yn sensitif
- ystyried unrhyw berygl enbyd y gallai'r oedolyn agored i niwed fod ynddo
- siarad â'r heddlu os yw'n fater troseddol
- gwneud ymholiadau am y pryderon
- ystyried dymuniadau'r oedolyn mewn perygl
- datblygu cynllun gyda'r oedolyn a fydd yn eu cadw'n ddiogel yn y dyfodol
Gellir cymryd camau yn erbyn yr unigolyn sy'n achosi niwed iddynt.
Cyswllt
- Ebost: cymorth@powys.gov.uk
- Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
- Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
- Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG