Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

RHYBUDD SGAM: Rydym wedi cael gwybod am gyfres o negeseuon testun twyllodrus sy'n cael eu hanfon at drigolion Powys.

Adolygu gwasanaeth dros y gaeaf ar gyfer ffyrdd Powys

Image of a gritting lorry

3 Gorffennaf 2025

Image of a gritting lorry
Bydd argymhellion ar sut y caiff ffyrdd Powys eu categoreiddio a'u gwasanaethu dros fisoedd y gaeaf yn cael eu trafod gan bwyllgor craffu Cyngor Sir Powys yr wythnos nesaf, dydd Mercher 9 Gorffennaf.

Datblygwyd yr argymhellion yn ystod adolygiad cynhwysfawr o'r gwasanaeth dros y gaeaf ar gyfer ffyrdd Powys sydd wedi cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus helaeth yn ystod 2023 ac ymgysylltiad pellach ag aelodau lleol yn 2024.

Yn dilyn canllawiau Grŵp Ymchwil Gwasanaeth dros y Gaeaf Cenedlaethol (NWSRG) a'r Cod Ymarfer: Seilwaith Priffyrdd a Reolir yn Dda, mae holl ffyrdd Powys wedi'u categoreiddio gan ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar risg a thystiolaeth. Yn nhermau syml, mae hyn yn golygu ein bod wedi ystyried nifer o feini prawf ar gyfer pob ffordd, gan lefel y traffig, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, mwynderau a gwasanaethau hanfodol megis ysgolion, canolfannau meddygol a lleoliad gwasanaethau brys.

Mae'r categorïau wedyn wedi'u cymhwyso'n ymarferol, gan ddatblygu set o lwybrau gwasanaeth gaeaf (graeanu) a argymhellir ar gyfer y sir gyfan a fydd wedi'u creu gan ddefnyddio dull agored, cyson a theg a fydd yn darparu gwasanaeth teg i Bowys gyfan.

"Yn hanesyddol, mae sut mae ffyrdd Powys wedi cael eu gwasanaethu a'u cynnal a'u cadw dros fisoedd y gaeaf wedi esblygu ar lefel leol." Eglurodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach. "Er bod y rhesymeg y tu ôl i'r dull gweithredu hwn wedi'i fwriadu'n dda, roedd yn bryd i'r broses gael ei hadolygu yn erbyn cod ymarfer cenedlaethol ac anghenion presennol, modern ein sir."

"Mae'r adborth a gasglwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ac ymgysylltu â'r cyhoedd wedi sicrhau bod yr argymhellion i'w trafod gan y pwyllgor craffu a'u cyflwyno wedyn i'r cabinet, yn bodloni disgwyliadau'r cymunedau lle bynnag y bo hynny'n bosibl. Drwy'r adolygiad hwn rydym wedi gallu cynhyrchu llwybrau gwasanaeth dros y gaeaf sy'n addas ar gyfer y sir gyfan.

"Gyda rhwydwaith ffyrdd o fwy na 5,500km, mae'n bwysig cofio na allwn wasanaethu na thrin pob ffordd ar yr un lefel drwy gydol misoedd y gaeaf. Mae'r adolygiad gwasanaeth dros y gaeaf hwn wedi ein helpu i flaenoriaethu ffyrdd a llwybrau yn deg.

"Nid ymarfer arbed arian yw adolygiad gwasanaeth dros y gaeaf ar gyfer ffyrdd Powys, er ei bod yn bwysig cofio bod pob maes gwasanaeth yn y cyngor yn gorfod gwneud arbedion cyllideb a bod yn ddarbodus gyda gwariant. Prif bwrpas yr adroddiad hwn yw sicrhau bod llwybrau gwasanaeth dros y gaeaf yn cael eu creu mewn dull agored, cyson a theg a fydd yn darparu gwasanaeth teg i'r sir gyfan."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu