Joia, Cymer Ofal a Bydd Ddiogel yn ystod wythnos Sioe Frenhinol Cymru

7 Gorffennaf 2025

Bydd yr ymgyrch yn gweld cyfres o bosteri, baneri a chyfryngau eraill yn cael eu harddangos mewn safleoedd trwyddedig a ledled Llanfair-ym-Muallt yn ystod wythnos y sioe, gan annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol mewn ffordd greadigol a digrif. Mae'r ymgyrch yn cael ei gweithredu gan Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt.
Nod y mesurau a gyflwynwyd gan y grŵp diogelwch, a ffurfiwyd yn 2017 ac a arweiniwyd gan Gyngor Sir Powys, yw lleihau risg i'r cyhoedd a gwella diogelwch y rhai sydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau yn ystod cyfnod y Sioe Fawr.
Mae mesurau diogelwch eraill a fydd ar waith hefyd yn cynnwys:
- Llwybr cerdded diogel a elwir y Llwybr Gwyrdd
- Canolfan feddygol a lles, a elwir yn Bwynt Cymorth, a weithredir gan Ambiwlans Sant Ioan Cymru o Neuadd y Strand
- Pwynt Cymorth 'Dros Dro' yn darparu canllawiau a chymorth lles, a weithredir gan Wasanaeth Ieuenctid Cyngor Sir Powys o'r Groe
- Cymorth lles i'w ddarparu gan Fugeiliaid Stryd a Gweithwyr Ieuenctid yn y nos
- Modd o wefru ffonau symudol am ddim yn y Pwynt Cymorth
- Dŵr am ddim, wedi'i roi'n garedig gan Radnor Hills
- Bydd blychau amnest cyffuriau yn cael eu gosod ar y ffyrdd mynediad i leoliadau yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Mae Sioe Frenhinol Cymru yn uchafbwynt yng nghalendrau llawer o bobl, ac mae'n denu degau o filoedd o ymwelwyr i Lanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau bob blwyddyn.
"Yn dilyn lansiad ymgyrch Joia, Cymer Ofal, Bydd Ddiogel yn 2022, mae'n wych gweld ei bod yn dychwelyd ar gyfer Sioe eleni fel ffordd ddigrif o gyfleu neges bwysig i'r rhai a fydd yn Llanfair-ym-Muallt a'r cyffiniau yn ystod wythnos y Sioe Fawr.
"Wrth gwrs, rydym am i'n hymwelwyr gael amser gwych. Mae'n achlysur cymdeithasol ac yn gyfle perffaith i gyfarfod â'r rhai nad ydych efallai wedi'u gweld ers tro, ond gwnewch yn siwr eich bod yn yfed ac yn ymddwyn yn gyfrifol a gofalwch amdanoch chi'ch hunain a'ch ffrindiau. Cyn belled â bod pobl yn Joio, Cymryd Gofal a Bod yn Ddiogel yna byddant yn cael amser cofiadwy yn ystod wythnos y Sioe Fawr.
"Rydym yn deall y gallai rhai o'r mesurau a fydd ar waith achosi rhywfaint o darfu ar drigolion sy'n byw yn Llanfair-ym-Muallt. Fodd bynnag, maent yn angenrheidiol i sicrhau ein bod yn cadw ymwelwyr a thrigolion yn ddiogel drwy gydol wythnos y Sioe Fawr."
Dywedodd Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: "Wrth i ni edrych ymlaen at Sioe Frenhinol Cymru 2025, rydym yn falch o barhau â'n partneriaeth gref gyda Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt. Mae gwaith y grŵp yn sicrhau y gall pawb sy'n mynychu'r sioe ac ymweld â'r dref fwynhau amgylchedd croesawgar a diogel. Diolch yn fawr iawn i'r Cadeirydd, Greg, a holl aelodau'r grŵp am eu hymrwymiad parhaus.