Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwaith yn dechrau ar gynllun peilot tyfu llysiau 36 erw

The new farmers who are working the land at Sarn, over three plots, as part of the project.

7 Gorffennaf 2025

The new farmers who are working the land at Sarn, over three plots, as part of the project.
Mae ffermwyr wedi dechrau gweithio ar dri llain newydd ger y Drenewydd i brofi a ellir defnyddio tir Powys i dyfu ffrwythau a llysiau yn amaethyddol ar raddfa fasnachol.

Rhyngddynt maent yn gweithio 36 erw o dir sy'n eiddo i Gyngor Sir Powys yn Sarn. Bydd yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi cynnyrch i farchnadoedd lleol, ysgolion yng Nghymru ac o bosibl mewn dinasoedd cyfagos fel Birmingham yn y dyfodol.

Dewiswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus, sydd i gyd yn dod o Bowys neu'r ardaloedd ar y ffin gyfagos, yn seiliedig ar eu cynlluniau busnes a'u profiad tyfu blaenorol.

Bydd y ffermwyr yn cydweithio i ddarparu cynllun bocsys llysiau lleol, yn ogystal â datblygu mentrau unigol. Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwerthu llysiau organig i gyfanwerthwyr a chnydau salad i gaffis a bwytai lleol, cyflenwi hadau i Hwb Hadau Cymru, gwerthu eginblanhigion llysiau, perlysiau a choed, ynghyd â ffrwythau ac wyau, cynnig cyrsiau adeiladu cychod gwenyn a pharatoi bwyd, a gwerthu kimchis, siytni a bwydydd parod eraill mewn marchnadoedd lleol.

Mae'r ffermwyr hefyd yn bwriadu ymgorffori amaeth-goedwigaeth a nifer fach o dda byw, ynghyd â chynhyrchu naddion pren a bio-olosg, i gynyddu iechyd a ffrwythlondeb y pridd, rheoli plâu a chreu system fwy dolen gaeedig, gydag ychydig iawn o angen, neu dim angen, am fewnbynnau allanol fel compost a gwrteithiau.

Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni gan Bartneriaeth Ffermydd y Dyfodol sy'n cynnwys Cynghorau Sir Powys a Sir Gâr, Ein Bwyd 1200 a Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol.

Mae'r safle yn cynnwys tri chartref dros dro, a gafodd caniatâd cynllunio o dan ganllawiau newydd a gyhoeddwyd y llynedd gan Gyngor Sir Powys. Mae'r canllawiau'n cefnogi gosod anheddau dros dro fel rhan o fentrau garddwriaethol ar raddfa fach.

Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, "Mae'r gwaith yn Sarn yn gynllun peilot, y gobeithiwn y gellir ei efelychu ledled y sir ar dir sy'n eiddo i'r cyngor a chan unigolion preifat, fel rhan o raglen lawer mwy. Rydym am weld mwy o'r ffrwythau a'r llysiau rydym yn eu bwyta yn cael eu tyfu yma ym Mhowys, fel y gallwn leihau ein milltiroedd bwyd, gwella ein diogelwch bwyd a thrwy hynny greu cymunedau ffermio mwy gwydn a chreu mwy o swyddi.

"Rydym eisoes yn wych am ffermio da byw a llaeth ym Mhowys, ond gallem hefyd ddyfod i fod yn wych am dyfu llysiau a grawn yma hefyd."

Darparwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru (£270,000) trwy ei Rhaglen Gydweithredu ar Asedau, Llywodraeth y DU (£341,000) trwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol (£20,000) trwy ei Chronfa Cyfalaf Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Dywedodd cyfarwyddwr Ein Bwyd 1200, Duncan Fisher: "Mae garddwriaeth amaeth-ecolegol yn cynhyrchu swm sylweddol o fwyd ar ardal gymharol fach o dir. Ond hyd yn hyn, y rhwystr mawr fu'r diffyg tai i'r ffermwyr, sydd angen bod ar y safle'n llawn amser. Gyda canllawiau cynllunio newydd y cyngor ar waith, y cam nesaf ym Mhowys yw cynyddu hyn, gyda mwy o dir a mwy o dai, i agor llawer mwy o gyfleoedd i newydd-ddyfodiaid talentog i ffermio."

Ychwanegodd Rheolwr ar y Cyd Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol Cymru, Alison Sheffield: "Fel sefydliad sydd wedi bod yn cefnogi cymunedau i ffermio, garddio a thyfu gyda'i gilydd ers dros 40 mlynedd, mae wedi bod yn gyffrous i ni gymryd rhan arweiniol yn y cynllun peilot hwn. Rydyn ni'n gwybod bod angen tyfu mwy o lysiau yn ein gwlad i ddiwallu ein hanghenion maethol ac mae agor fyny mwy o dir ar gyfer cyfleoedd i bobl leol yn hanfodol i'n helpu ni ar y daith hon."

Mae'r ffermwyr newydd yn cael eu cefnogi gan Cultivate, Llwybrau at Ffermio, Mentera, Lantra a Chyswllt Ffermio.

Aelodau Partneriaeth Ffermydd y Dyfodol yw Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Ein Bwyd 1200, Bwyd Powys, Asedau a Rennir, Cynghrair Gweithwyr Tir, Cultivate, Rhwydwaith Ffermio sy'n Gyfeillgar i Natur, Lantra, Coleg y Mynydd Du, Cwmni Cydweithredol Tir Ecolegol, Eco Dyfi a Chonsortiwm Gwlad.

Rhagor o wybodaeth am brosiect Ffermydd Sarn: https://einbwyd1200.cymru/rydym-yn-adeiladu-tair-fferm-amaethecolego-newydd-yn-sarn-powys/

LLUN: Y ffermwyr newydd sy'n gweithio ar y tir yn Sarn, dros dair llain, fel rhan o'r prosiect.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu