Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd pob llinell ffôn Incwm a Gwobrau ar gau ar gyfer hyfforddiant staff ar Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025

Cyngor yn sicrhau mwy o lety i gadw pobl ifanc yn agosach at eu cartrefi

7 Gorffennaf 2025

Young person in kitchen
Bellach mae gan bobl ifanc bregus fwy o opsiynau i barhau i fyw'n agosach at eu cartrefi diolch i leoliadau lled-annibynnol a sicrhawyd ledled Powys.

Mae prosiect i ddarparu amrywiaeth o lety yn y sir ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed yn eu galluogi i aros yn eu cymunedau a chynnal cysylltiadau plentyndod.

Mae'r 27 lleoliad ledled Powys yn cynnig lefelau amrywiol o gymorth gyda pharatoi ar gyfer byw'n annibynnol ar gyfer pobl ifanc bregus neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, gan gynnwys y rhai sy'n gadael gofal.

Mae'r saith eiddo newydd wedi helpu'r cyngor i wneud arbedion o fwy na £200,000 y llynedd.

Yn aml, mae byw yn agosach at y cartref yn caniatáu i'r bobl ifanc barhau i gael mynediad at wasanaethau, cymorth ac addysg yn eu hardal leol gan arwain at ganlyniadau mwy cadarnhaol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Sandra Davies: "Rydym wrth ein boddau i fedru cynnig yr ateb arloesol hwn sy'n cadw ein pobl ifanc o fewn eu cymunedau ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar leoliadau drud y tu allan i'r sir.

"Mae'r prosiect yn amlygu ein hymrwymiad i roi'r sefydlogrwydd a'r gefnogaeth i bobl ifanc ffynnu a datblygu eu sgiliau byw a pharatoi ar gyfer annibyniaeth."

Mae'r adborth gan bobl ifanc yn cynnwys:

·       Maen nhw'n teimlo'n ddiogel, yn fwy annibynnol ac yn coginio mwy i'w hunain.

·       Roeddent yn gwerthfawrogi staff yn eu cefnogi gyda chyllidebu a siopa bwyd.

·       Teimlant fod ganddynt fwy o gysylltiad a gwybodaeth am y dyfodol a'u bod yn cael eu trin yn dda.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu