Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd pob llinell ffôn Incwm a Gwobrau ar gau ar gyfer hyfforddiant staff ar Dydd Mercher 9 Gorffennaf 2025

Powys yn Adrodd ar Gynnydd a Heriau ar y Llwybr i Sero Net

Solar panels

8 Gorffennaf 2025

Solar panels
Mae ffitiadau goleuadau LED a phaneli solarpv a osodwyd ar adeiladau'r cyngor sir ym Mhowys wedi helpu i dorri allyriadau carbon blynyddol o 113.96 tunnell a lleihau biliau ynni o ryw £130,000.

Mae'r rhain ymhlith y ffigurau a ddatgelwyd yn Adroddiad Sero Net Powys 2024, a fydd yn cael ei gyflwyno i Gabinet y cyngor sir yr wythnos nesaf (dydd Mawrth 15 Gorffennaf).

Mae'r prif gyflawniadau 2024 yn cynnwys:

  • Goleuadau LED: Dros 3,600 o osodiadau newydd, gan arbed 40,874kg o CO2e.
  • Seilwaith EV (cerbydau trydan): £635,000 wedi'i sicrhau ar gyfer capasiti ychwanegol.
  • Effeithlonrwydd ynni: Wedi'i wella mewn dros 1,800 eiddo.
  • Gosodiadau solar PV (ffotofoltaidd): Gosodwyd 528 kW, gan arbed 73,083kg o CO2e.
  • Inswleiddio a gwydro: Gwaith uwchraddio sylweddol mewn sgolion ac adeiladau cymunedol.

Prosiectau mawr a chyllid yn ystod 2024 yn cynnwys:

  • Cronfa Ffyniant Gyffredin: £7.17 miliwn wedi'i ddyrannu i fwy na 25 o brosiectau datgarboneiddio.
  • Cynllun Cymru Gynnes: Gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi.
  • Cynllun Unioni Ynni: Cefnogi ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned.
  • Cynllun Gweithredu Adfer Natur: Datblygwyd i wella bioamrywiaeth a mannau gwyrdd.
  • Cynllun Rheoli Dŵr Dyffryn Hafren: Dechrau mynd i'r afael â risg llifogydd a chydnerthedd dŵr.

Fodd bynnag, er gwaethaf y llwyddiannau hyn, bu cynnydd o 5.2% yn allyriadau carbon y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023-24 i 90,272.77 tunnell.

Roedd hyn yn rhannol oherwydd:

  • Cynnwys data cludiant ysgol am y tro cyntaf.
  • Allyriadau uwch gan gadwyni gyflenwi.
  • Twf teithio busnes ac yn y fflyd cerbydau.

Er hynny, roedd gostyngiadau yn:

  • Allyriadau cymudo a gweithio gartref.
  • Allyriadau gwastraff (oherwydd symud i ffwrdd o dirlenwi).

"Rydym wedi ymrwymo i ddod yn gyngor sero net erbyn 2030 ac i gefnogi'r sir i gyrraedd sero net erbyn 2050," meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Wyrddach.

"Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf hwn yn amlinellu ein cynnydd, ein heriau a'n cynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol."

Mae'r heriau sy'n wynebu'r cyngor i gyrraedd sero net erbyn 2030 wedi'u nodi yn yr adroddiad, ac mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cyfyngiadau'r gyllideb.
  • Cyfyngiadau o ran staffio a rolau tymor penodol.
  • Diffyg llythrennedd hinsawdd ar draws y sefydliad.
  • Cynlluniau gweithredu heb gostau manwl.

Ychwanegodd y Cynghorydd Charlton: "Rydym wedi gwneud cynnydd ystyrlon ond rydym yn cydnabod yr angen am fwy o gyflymdra, graddfa a buddsoddiad. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i'n gweledigaeth ar gyfer Powys Wyrddach a byddwn yn parhau i gydweithio â chymunedau a phartneriaid i gyflawni ein nodau hinsawdd a natur."

Mae'r camau nesaf ar gyfer 2025-26, a drafodir yn yr adroddiad, yn cynnwys:

  • Datblygu Llwybr Sero Net a Chynllun Rheoli Carbon.
  • Cwblhau Cynllun Pontio'r Fflyd Cerbydau a Strategaeth Gwresogi Carbon Isel.
  • Ehangu seilwaith codi tâl am wefru EV yn y sir a gosodiadau adnewyddadwy.
  • Gwella systemau data ar gyfer olrhain allyriadau.
  • Cryfhau cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi a chaffael gwerth cymdeithasol.

Gellir gweld yr adroddiad llawn ar-lein gyda phapurau cyfarfod y Cabinet ddydd Mawrth 15 Gorffennaf.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu