Canfod algâu gwyrddlas yn Llyn Llandrindod

10 Gorffennaf 2025

Mae'r algâu'n cynhyrchu tocsinau sy'n gallu achosi brech y croen, cyfog, chwydu, poenau stumog, twymyn a phen tost os bydd rhywun yn eu llyncu. Weithiau mae'n gallu achosi salwch mwy difrifol fel effeithiau niweidiol ar yr iau a'r system nerfol.
Mae'r algâu gwyrddlas (seibanofacteria) yn digwydd yn naturiol mewn dyfroedd mewndirol, aberoedd a moroedd ac ni ellir eu tynnu na'u trin. Maent yn prifio mewn tywydd cynnes ac yn debygol o fynd a dod drwy gydol tymor yr haf.
O ystyried y peryglon posib i iechyd a achosir gan algâu gwyrddlas, rydym yn rhoi'r cyngor canlynol:
- peidiwch â nofio yn y dŵr nac ymdrochi, e.e. trwy badlfyrddio ar eich sefyll
- peidiwch â llyncu'r dŵr
- osgowch gyswllt â'r algâu - cadwch draw
- peidiwch â bwyta pysgod a ddaliwyd yn y Llyn
- peidiwch â gadael i anifeiliaid anwes neu dda byw ddod i gyswllt â dŵr y llyn
- gwyliwch a chadwch at y rhybuddion a leolir o amgylch Llyn Llandrindod.
Dylai unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â dŵr dan effaith algâu gael cawod gyda dŵr ffres ar unwaith.
Dylai unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â dŵr dan effaith algâu ac sydd wedi mynd yn sâl geisio sylw meddygol
I gael mwy o gymorth a chyngor, cysylltwch â Thîm Hamdden a Mynediad Cefn Gwlad Cyngor Sir Powys ar 01597 827500.