Toglo gwelededd dewislen symudol

Darparwraig Llety â Chymorth yn grymuso pobl ifanc i fod yn annibynnol

Juliet

14 Gorffennaf 2025

Juliet
Mae nifer o bobl ifanc a fu unwaith yn aros gyda Juliet wedi dychwelyd i rannu sut mae eu hamser gyda hi wedi eu grymuso i ffynnu yn y byd ehangach.

Mae Juliet, Darparwraig Llety â Chymorth o ardal Y Trallwng, yn rhannu ei chartref ac yn cefnogi pobl ifanc (16 - 25) ym Mhowys i fyw bywydau annibynnol. Dros y tair blynedd ddiwethaf mae hi wedi darparu ystafell sbâr, rhannu profiadau, a chefnogi pedwar person ifanc i baratoi i gymryd eu camau nesaf mewn bywyd.

"Mae eu gwylio'n ffynnu a dod yn oedolion ifanc annibynnol ar eu taith drwy fywyd yn uchafbwynt gwirioneddol i mi," meddai Juliet, darparwraig Llety â Chymorth, Cyngor Sir Powys, "dyna pam rwy'n ei wneud. Mae rhoi cartref dros dro i'r rhai nad ydynt yn gallu bod gyda'u teulu, yn gadael gofal maeth neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn rhoi cymaint o foddhad"

Cymerodd Juliet ei chamau cyntaf i mewn i Lety â Chymorth ar ôl clywed gan ffrind am yr effaith gadarnhaol y gall hyn ei gael ar fywyd person ifanc.

Mae Juliet, fel llawer o rieni, yn byw bywyd prysur, yn cydbwyso gwaith, ymrwymiadau teuluol, a hobïau, ac mae hi'n rhannu ei phrofiadau bywyd gyda'r bobl ifanc gan roi mewnwelediad gwerthfawr iddynt i sefyllfaoedd bywyd go iawn.

Ychwanegodd y Cynghorydd Sandra Davies, Yr Aelod Cabinet dros Genedlaethau'r Dyfodol "Mae ein darparwyr Llety â Chymorth ym Mhowys yn gwneud gwaith arbennig wrth ddarparu ystafell yn eu cartref i berson ifanc a rhoi cefnogaeth, anogaeth ac arweiniad iddynt i ddatblygu'r sgiliau ymarferol a'r hyder sydd eu hangen arnynt i fyw'n annibynnol."

"Hoffwn ddiolch i Juliet a'r unigolion eraill am roi o'u hamser i gefnogi pobl ifanc. Mae hwn wir yn gyfle gwych i bobl ifanc sydd angen cefnogaeth. Mae pobl yn gallu ac yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau ifanc"

"Fel Darparwr Llety â Chymorth byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd person ifanc. Yn gyfnewid am hyn, byddwch yn cael cymorth gan ein Cydgysylltwyr Llety â Chymorth, mynediad at ystod eang o hyfforddiant, ynghyd â lwfans wythnosol."

I gael gwybod mwy am ddod yn rhan o'r tîm Llety â Chymorth ym Mhowys ebostiwch supported.lodgings@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827325.

Ceir rhagor o wybodaeth hefyd ar wefan Cyngor Sir Powys: https://cy.powys.gov.uk/LletyaChefnogaeth

LLUN: Juliet, darparwraig Llety â Chymorth o ardal Y Trallwng, gyda Nessa ei chi.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu