Dirwy i ddyn o Bowys am droseddau lles anifeiliaid

16 Gorffennaf 2025

Ymddangosodd Alastair Meikle, o Gardd Afon, Tafolwern, Llanbrynmair, gerbron Llys Ynadon Llandrindod ddydd Mawrth, 15 Gorffennaf, mewn achos a gychwynnwyd gan Dîm Iechyd Anifeiliaid y cyngor.
Methodd Meikle â mynychu'r gwrandawiad llys cychwynnol ddydd Mawrth, 24 Mehefin, gan arwain at godi gwarant i'w arestio.
Plediodd y diffynnydd yn euog i'r chwe throsedd canlynol:
- Methu â phrofi gwartheg am TB rhwng mis Hydref 2023 a mis Ebrill 2025, yn groes i hysbysiad a gyhoeddwyd o dan Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010
- Rhwystro archwiliad cyfreithlon drwy wrthod mynediad i swyddogion y cyngor a Heddlu Dyfed-Powys, o dan Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007
- Methu â chyflwyno cofnodion defaid a geifr fel sy'n ofynnol gan Orchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2015
- Methu â chyflwyno cofrestr moch o dan Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011
- Rhwystro arolygydd sy'n gweithredu o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
- Methu â chyflwyno cofnodion sy'n ymwneud â stoc drig, hefyd o dan Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014
Clywodd y llys fod Meikle wedi methu'n gyson â chydymffurfio â gofynion cyfreithiol, gan gynnwys gwrthod mynediad i'w eiddo ar sawl achlysur a methu â chofrestru gwartheg gyda Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS). Er gwaethaf honni nad oedd unrhyw wartheg ar ôl ar y safle, datgelodd ymchwiliadau dilynol fel arall, gyda rhai anifeiliaid wedi'u cofrestru dim ond ar ôl i achos cyfreithiol ddechrau.
Clywodd y llys hefyd mai dim ond ym mis Ebrill a mis Mehefin 2025 y cynhaliwyd profion TB, a ddylai fod wedi'u cwblhau yn 2023, yn dilyn camau gorfodi.
Cafodd Meikle ddirwy o £2,122 am y chwe throsedd a gorchmynnwyd iddo dalu £500 mewn costau a gordal dioddefwr o £844 - cyfanswm o £3,466, yn daladwy o fewn 28 diwrnod.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol: "Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydymffurfio â deddfwriaeth iechyd anifeiliaid. Roedd gweithredoedd y diffynnydd nid yn unig yn peryglu lles anifeiliaid ond hefyd yn peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd a chyfanrwydd y gadwyn fwyd.
"Cymerodd ein Tîm Iechyd Anifeiliaid y troseddau o ddifri yn briodol a gweithredu, gan arwain at yr erlyniad llwyddiannus hwn. Os byddwn yn dod ar draws achosion tebyg yn y dyfodol, byddwn yn erlyn."