Adolygiad 20mya, y camau nesaf

17 Gorffennaf 2025

Yr haf diwethaf, casglodd Cyngor Sir Powys, ynghyd â phob cyngor arall yng Nghymru, adborth trigolion ar derfynau cyflymder 20mya yn ystod ymarfer gwrando Llywodraeth Cymru. I grynhoi, roedd yr adborth a dderbyniwyd yn cynnwys:
- 53 o ymatebion yn gofyn am ddirymu'r polisi 20mya. Cyfeiriwyd y rhain at Lywodraeth Cymru.
- 97 o ymatebion yn cefnogi cadw terfynau cyflymder 20mya.
- 67 o ymatebion yn gofyn am ddychwelyd 20mya i 30mya neu newid 30mya i 20mya mewn lleoliadau penodol. Mae rhai o'r rhain yn cyfeirio at yr un ardaloedd ac yn effeithio ar 43 o safleoedd unigol neu rannau o'r ffordd.
- 25 o ymatebion ar gyfer ceisiadau terfyn cyflymder sydd y tu allan i gylch gwaith adolygiad 20mya Llywodraeth Cymru. Yn amodol ar adnoddau, bydd y rhain yn cael eu hadolygu unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Terfynau Cyflymder Lleol newydd yng Nghymru.
Aseswyd yr adborth yn ymwneud â'r 43 safle unigol neu ran o'r ffordd yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfynau cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd eraill â therfyn cyflymder 20mya.
Lle ystyriwyd ei bod yn briodol gwneud newidiadau, naill ai'n ôl i 30mya neu i lawr i 20mya, rhannwyd y cynigion gyda phob cynghorydd sir a chynghorau tref a chymuned ar gyfer unrhyw sylwadau pellach. Defnyddiwyd eu mewnbwn i gwblhau cynigion i'w symud i'r cam nesaf.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd y cynigion yn destun i broses gorchymyn rheoleiddio traffig (TRO) statudol cyfreithiol, cyn i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu. Bydd pob Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, lle gall trigolion ddangos cefnogaeth neu godi gwrthwynebiadau. Bydd manylion am sut i gymryd rhan yn y broses hon yn cael eu cyhoeddi ar y wefan maes o law: Ymgynghori ar Orchymyn Traffig
"Rydym yn ddiolchgar i'r rhai a gymerodd yr amser i roi adborth inni yn ystod ymarfer gwrando diweddar Llywodraeth Cymru, ac am y sylwadau a'r trafodaethau pellach a gawsom gyda chynghorwyr a chynghorau tref a chymuned." Meddai'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach. "Roedd yn bleser derbyn cymaint o sylwadau cadarnhaol i gefnogi'r polisi 20mya a sut roedd trigolion yn teimlo ei fod wedi gwella diogelwch ar y ffyrdd a'r amgylchedd lleol yn eu cymunedau.
"Rydym wedi adolygu'r 43 safle unigol neu'r rhannau o'r ffordd a nodwyd gan y cyhoedd ac rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda'r cymunedau i ddod â'r adolygiad hwn i ben gyda set o gynigion synhwyrol.
"Ar gyfer y ffyrdd lle bwriedir newid y terfyn cyflymder, byddwn nawr yn mynd trwy'r broses gyfreithiol ffurfiol sy'n caniatáu i bobl Powys edrych eto ar y cynlluniau a rhoi sylwadau pellach, os dymunant. Bydd y manylion hyn ar gael ar wefan y cyngor yn fuan."