Trwyddedau ar gyfer clybiau - Sut i wneud cais
Dylech gyflwyno eich cais ar gyfer safleoedd ym Mhowys i ni. Mae'n rhaid eu cyflwyno mewn diwyg penodol a dylid eu hanfon gyda chynllun o'r safle, rheolau'r clwb ac atodlen gweithredu'r clwb a ddylai gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- gweithgareddau'r clwb
- amseroedd y gweithgareddau sydd i'w cynnal
- oriau agor eraill
- os yw'r alcohol i'w werthu i'w yfed ar neu oddi ar y safle
- unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Efallai y byddwn yn archwilio eich eiddo cyn y byddwn yn ystyried eich cais.
Bydd angen i chi dalu ffi pan fyddwch yn gwneud eich cais cyntaf am eich Tystysgrif Safle Clwb. Os byddwch yn cael y drwydded, bydd angen i chi dalu ffi flynyddol yn seiliedig ar werth ardrethol y safle.
Ffurflenni cais
Ymgeisiwch drwy ddefnyddio'r dolenni isod.
Cais ar gyfer tystysgrif safle clwb (PDF, 424 KB)
Cais i amrywio tystysgrif safle clwb (PDF, 391 KB)
Rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau - e-bostiwch licensing@powys.gov.uk i roi gwybod i ni am y newidiadau hyn
Gallwch hefyd gael ffurflenni cais oddi wrthym drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i hanfon at -
licensing@powys.gov.uk ynghyd â'r ddogfennau gofynnol.
Bydd rhaid talu ffi ar gyfer y drwydded hon.
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma