Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor yn croesawu penderfyniad i dynnu Ysgol Llanfyllin o restr adolygu Estyn

Image of a secondary school classroom

18 Gorffennaf 2025

Image of a secondary school classroom
Mae Cyngor Sir Powys wedi croesawu'r newyddion bod Ysgol Llanfyllin wedi'i thynnu oddi ar restr Estyn o ysgolion y mae angen eu hadolygu, yn dilyn gwerthusiad cynnydd llwyddiannus.

Cadarnhaodd Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, fod yr ysgol wedi gwneud cynnydd priodol wrth fynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd yn ystod ei archwiliad craidd. Roedd yr arolygiaeth hefyd yn cydnabod gallu cynyddol yr ysgol i barhau i yrru'r gwelliannau, sy'n golygu nad oes angen unrhyw weithgaredd monitro pellach.

Mae'r penderfyniad yn dilyn adolygiad diweddar a gynhaliwyd mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Powys a rhanddeiliaid eraill.

Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae hyn yn newyddion rhagorol i Ysgol Llanfyllin ac yn dyst i waith caled ac ymrwymiad y pennaeth, staff, llywodraethwyr, dysgwyr, a chymuned ehangach yr ysgol. Mae hefyd yn adlewyrchu'r gwaith partneriaeth cryf rhwng yr ysgol a'r cyngor.

"Edrychwn ymlaen at barhau a chryfhau ein partneriaeth gref ymhellach gydag Ysgol Llanfyllin, gan sicrhau bod yr ysgol yn parhau ar ei llwybr o welliant a llwyddiant."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu