Cytundeb nawdd yn rhoi ffermio a diogelwch bwyd ar frig yr agenda

18 Gorffennaf 2025

Bydd y digwyddiad a gynhelir yn Square Farm, Sir Fynwy, ar 3 a 4 Hydref, yn dod â ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, llunwyr polisi a chymunedau o bob rhan o ranbarth y Gororau at ei gilydd ac mae'n fenter allweddol ar gyfer Mudiad Bwyd Da y Gororau, un o raglenni blaenoriaeth y PGY.
Mae'r cytundeb nawdd o £6,000 yn cydnabod bod y Rhaglen Gydgyfeirio'n hyrwyddo'r rhanbarth fel ardal cynhyrchu bwyd bwysig i'r DU ac yn adlewyrchu uchelgais y PGY i'r rhanbarth ddod yn arweinydd cenedlaethol mewn twf gwyrdd, datblygu gwledig cynaliadwy ac fel model ar gyfer cymunedau gwledig iach a chysylltiedig.
Bydd y digwyddiad yn llwyfan ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, cydweithio a dathlu, gan atgyfnerthu ymrwymiad y PGY i ddatgloi buddsoddiad a sbarduno gwytnwch economaidd ac amgylcheddol.
Meddai Heather Kidd, Arweinydd Cyngor Sir Amwythig a chadeirydd cyfarfod cyntaf y Bwrdd Partneriaeth: "Mae gwytnwch bwyd wrth wraidd dyfodol ein rhanbarth. Drwy gefnogi Cydgyfeirio Bwyd a Ffermio Go Iawn, rydym yn buddsoddi yn y bobl, yr arferion a'r partneriaethau a fydd yn sicrhau y gall ein cymunedau ffynnu yn wyneb heriau hinsawdd, economaidd a chymdeithasol.
"Mae hyn yn ymwneud ag adeiladu system fwyd sy'n gweithio i bawb—wedi'i gwreiddio yn ein tir, ein gwerthoedd, a'n gweledigaeth gyffredin ar gyfer y Gororau."
Meddai Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby: "Rydym yn edrych ymlaen at gynnal Cydgyfeirio Bwyd Go Iawn a Ffermio'r Gororau eleni yn Square Farm, a hoffwn ddiolch i Fwrdd Partneriaeth Y Gororau Ymlaen am gytuno i'r nawdd."
"Bydd y digwyddiad yn dangos sut y gallwn ni i gyd chwarae rhan yn y gwaith o greu cadwyn fwyd gynaliadwy ledled y Gororau."