Llongyfarch Athrawes yn Ysgol Calon Cymru ar anrhydedd addysgu genedlaethol

18 Gorffennaf 2025

Enillodd Lizzie Tiernan, Pennaeth Chweched Dosbarth Ysgol Calon Cymru, wobr Cefnogi Dilyniant i Addysg Uwch yng Ngwobrau Athrawon a Chynghorwyr 2025, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.
Mae'r gwobrau blynyddol, a gynhelir gan Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad ag Ymestyn yn Ehangach, yn dathlu cyfraniadau rhagorol gan athrawon a chynghorwyr ledled y DU.
Roedd Lizzie ymhlith 150 o bobl a enwebwyd o bob rhan o'r DU, gydag wyth yn gwneud y rhestr fer derfynol. Ynghyd â'i gwobr, enillodd Lizzie £500 tuag at ei datblygiad proffesiynol parhaus neu ar gyfer mentrau llesiant staff yn ei hysgol.
Daw cydnabyddiaeth Lizzie o ganlyniad i'w hymroddiad diflino i'r chweched dosbarth yn Ysgol Calon Cymru. Mae ei gwaith wedi cynnwys datblygu cwricwlwm wedi'i deilwra i ddysgwyr unigol a threfnu ystod eang o weithgareddau ychwanegol ac uwchgwricwlaidd sydd wedi rhoi profiadau gwerthfawr i fyfyrwyr i gefnogi eu camau nesaf i addysg uwch.
Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn dyst i'r brwdfrydedd a'r ymrwymiad y mae Lizzie yn ei roi i'w rôl. Mae cefnogi pobl ifanc i wireddu eu potensial a chymryd camau hyderus i addysg uwch yn hanfodol i'w dyfodol ac i ffyniant Powys. Rydym yn hynod falch o'i llwyddiant."
Ychwanegodd Lee Powell, Pennaeth Ysgol Calon Cymru: "Rydym wrth ein bodd bod gwaith eithriadol Lizzie wedi cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol. Mae ei hymroddiad i ddatblygiad academaidd a phersonol ein myfyrwyr heb ei ail, ac mae'r wobr hon yn haeddiannol iawn."