Cyngor yn croesawu cynnydd ysgol wrth i dair ysgol gynradd gael eu tynnu oddi ar restr adolygu Estyn

18 Gorffennaf 2025

Mae Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, wedi cadarnhau bod Ysgol Yr Ystog, Ysgol Llangynidr ac Ysgol Bro Cynllaith i gyd wedi gwneud cynnydd priodol wrth fynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd yn ystod eu harolygiadau craidd, sy'n golygu nad oes angen unrhyw weithgaredd monitro pellach.
Meddai'r Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae hyn yn newyddion rhagorol i'r tair ysgol ac yn dyst i waith caled ac ymrwymiad eu penaethiaid, staff, llywodraethwyr, dysgwyr a chymunedau ehangach.
"Mae hefyd yn adlewyrchu'r gwaith partneriaeth cryf rhwng yr ysgolion a'r awdurdod lleol. Rydym yn falch o'r cynnydd a wnaed ac yn falch bod ymdrechion pob ysgol wedi cael eu cydnabod gan Estyn."