Newid hinsawdd a ffermio

Mae Powys yn gartref i 1/5 o'r holl ddaliadau amaethyddol yng Nghymru. Yng Nghymru, mae amaethyddiaeth yn cyfrif am oddeutu 13% o'n hallyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r canran hwn yn 28% ym Powys. Mae'r sector yn wynebu heriau wrth weithio tuag at ddyfodol sy'n llai carbon-ddwys ac yn fwy cynaliadwy, ond mae'r rhan fwyaf o ffermwyr Cymru yn deall yr angen i addasu.
- Cynhyrchiant: Mae tystiolaeth sy'n awgrymu y gall ffermydd Cymru gynyddu gwytnwch ariannol drwy arferion ffermio sy'n ystyriol o natur, sy'n cydbwyso cynhyrchu bwyd â'r amgylchedd naturiol.
- Cynaliadwyedd: Mae ffermwyr defaid ym Mhowys a thu hwnt eisoes yn gweld manteision amaethyddiaeth fwy cynaliadwy. Yn 2018 yn unig, ychwanegodd sychder a llifogydd £151m i gyfanswm gwerth y porthiant da byw ychwanegol a brynwyd gan ffermwyr Cymru, ac amcangyfrifwyd bod gwerth yr ŵyn a gollwyd yn £23.8m. Tra bod newid hinsawdd yn arwain at ddibyniaeth ar wrtaith anorganig costus a phorthiant wedi'i fewnforio i wella'r cynnyrch, mae hwn yn fodel busnes ansicr.
- Bregusrwydd: Mae gan ffermwyr rôl hanfodol wrth reoli'r priddoedd a'r glaswelltir sydd eu hangen arnom i gadw carbon o'r atmosffer ac arafu newid hinsawdd yn y dyfodol. Tra bod effaith ffermio yng Nghymru ar yr hinsawdd yn is na chyfartaledd y diwydiant byd-eang, mae ffermwyr yn y rheng flaen o ran risg hinsawdd. Mae tiroedd yn dirywio'n gynt gyda newid yn yr hinsawdd, gan ychwanegu at yr her i ddulliau ffermio sefydledig.
- Cyfle: Mae cymhellion ariannol gan gynnwys gwerthu credydau carbon i reoli carbon drwy arferion rheoli tir effeithiol. O 2026, bydd cynllun ffermio Cymru yn gwobrwyo rheoli tir mewn ffordd sy'n gadarnhaol i fyd natur.
Edrychwch ar y dudalen Adnodd i weld sut y gallwch helpu, a chael cefnogaeth, i ddiogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag effeithiau gwaethaf newid hinsawdd.