Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweinidog yn gweld y cynnydd ar brosiect adfer camlas gwerth £14m

Dame Nia Griffith viewing the improvements to Y Lanfa in Welshpool from the Heulwen Trust canal boat.

21 Gorffennaf 2025

Dame Nia Griffith viewing the improvements to Y Lanfa in Welshpool from the Heulwen Trust canal boat.
Bu Gweinidog Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, yn Y Trallwng a Llanymynech i weld sut mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar brosiect mawr i adfer Camlas Trefaldwyn.

Mae'r cynllun, sy'n cael ei gyflawni mewn partneriaeth gan Gyngor Sir Powys a Glandŵr Cymru (Yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru), wedi derbyn £13.94 miliwn gan Lywodraeth y DU fel rhan o'i rhaglen Ffyniant Bro.

Edrychodd y Fonesig Nia ar welliannau sydd wedi'u gwneud i'r Lanfa, yn Y Trallwng, sef cartref llyfrgell y dref ac Amgueddfa Powysland, cyn ymweld â'r Wern, ger Cei'r Trallwng, ac yna Llanymynech.

Yn y Wern, mae contractwyr sy'n gweithio i Glandŵr Cymru yn creu pwll newydd wrth ochr y gamlas ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig o blanhigion dyfrol a bywyd gwyllt arall. Ac yn Llanymynech, mae gwaith wedi dechrau ar bont newydd a fydd yn mynd a Lôn Carreghwfa dros y gamlas, yn hytrach na thrwyddi.

Meddai Gweinidog Swyddfa Cymru, Nia Griffiths: "Mae'n wych gweld y cynnydd enfawr sy'n cael ei wneud i adfer Camlas Trefaldwyn a diogelu ein treftadaeth ddiwydiannol am genedlaethau i ddod.

"Mae cyllid gan Lywodraeth y DU wedi galluogi'r cynllun uchelgeisiol hwn i gael ei gyflawni, gan greu swyddi, cefnogi'r diwydiant twristiaeth, ac adfer cynefinoedd bywyd gwyllt hanfodol."

Cyn gweld gwaith ar brosiect adfer y gamlas, ymwelodd y Fonesig Nia hefyd â'r gwneuthurwr CastAlum yn Y Trallwng, a gafodd Grant Twf Busnes gwerth £25,000 drwy Gyngor Sir Powys y llynedd.

Rhoddodd yr arian a dderbyniodd drwy'r cynllun grant, a gefnogwyd gan £1.2 miliwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, tuag at y gost o ddiweddaru dau o'i beiriannau mowldio-cast, fel rhan o raglen ailwampio ehangach.

"Roedd hi'n braf cael y cyfle i ddangos dau brosiect ym Mhowys yr wythnos ddiwethaf i'r Fonesig Nia sydd wedi elwa o gyllid Llywodraeth y DU," meddai'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bowys Fwy Ffyniannus. "Roedd CastAlum yn un o 71 o gwmnïau ym Mhowys y gallom eu cefnogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf, diolch i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac mae'r cyllid Ffyniant Bro yn helpu i drawsnewid dyfodol Camlas Trefaldwyn, ei ecoleg a'r cymunedau sy'n byw ochr yn ochr â hi."

Ychwanegodd Richard Harrison, prif reolwr prosiect Glandŵr Cymru: "Roedd hi'n braf croesawu'r Fonesig Nia i'r gamlas i ddangos iddi'r gwaith sy'n digwydd i'w hadfer. Rydym yn gwneud cynnydd da ar y gwaith adfer wrth i ni geisio gwneud y gwelliannau a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor y gamlas fel y gall barhau i fod o fudd i bobl a natur."

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd wedi cyfrannu £164,000 tuag at gost y gwaith ar Y Lanfa, tra bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £140,000 tuag at adnewyddu'r bythynnod ar lan y gamlas ar yr un safle, fel rhan o'i rhaglen Trawsnewid Trefi.

Cafodd gwaith ar Ddyfrbont Aberbechan, ger y Drenewydd, ei gefnogi hefyd gyda Grant Adeiladau Hanesyddol gan Cadw.

Mae SWG Group, sydd wedi'i leoli yn Y Trallwng, bron a chwblhau'r gwaith ar Y Lanfa.

Disgwylir i'r llyfrgell ailagor yn ei chartref arferol, ar y llawr gwaelod, ym mis Medi, tra bod Amgueddfa Powysland yn debygol o ailagor, ar y llawr cyntaf, tua diwedd 2025 neu ddechrau 2026.

Mae'r llyfrgell wedi'i lleoli dros dro yn y bythynnod cyfagos ar lan y gamlas.

LLUN: Y Fonesig Nia Griffith yn edrych ar y gwelliannau i'r Lanfa yn Y Trallwng o gwch camlas Ymddiriedolaeth Heulwen.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu