Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Powys

Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Powys (Gwastraff ac Ailgylchu) 2025 - 2030

Mae Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Powys (Gwastraff ac Ailgylchu) 2025 - 2030 (PDF, 1 MB) yn gynllun cynhwysfawr sydd â'r nod o greu dyfodol glanach, gwyrddach a mwy cynaliadwy i Bowys a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r strategaeth hon yn adeiladu ar y cynnydd sylweddol a wnaed o ran lleihau ac ailgylchu gwastraff dros y degawd diwethaf ac yn mynd i'r afael â'r heriau parhaus a achosir gan yr argyfwng hinsawdd byd-eang ochr yn ochr ag ysgogwyr newid cenedlaethol a lleol eraill.

Pum prif nod allweddol y strategaeth yw:

  • Lleihau, Ailddefnyddio, Atgyweirio: Atal cynhyrchu gwastraff, ymestyn hyd oes y cynnyrch, a hyrwyddo economi gylchol.
  • Ailgylchu: Cyflawni a rhagori ar darged ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru o 70%.
  • Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref: Cynyddu cyfraddau ailgylchu ac ailddefnyddio mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref.
  • Ymwybyddiaeth a Gorfodaeth: Gwella sut mae gwastraff yn cael ei reoli a lleihau gweithgareddau anghyfreithlon fel tipio anghyfreithlon.
  • Seilwaith: Datblygu a chynnal seilwaith i gefnogi mwy o ailgylchu a datgarboneiddio.

Drwy ymarferiad ymgysylltu â'r cyhoedd am 12 wythnos, casglwyd safbwyntiau ein trigolion, aelodau, sefydliadau partner a gweithleoedd Powys a defnyddiwyd eu hadborth i ddatblygu'r strategaeth derfynol, gynhwysfawr hon. Byddwn yn parhau i gadw safbwyntiau ein rhanddeiliaid mewn cof ac yn ymrwymo i ymgysylltu â hwy eto, lle bo hynny'n briodol, wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol ar ddarparu gwasanaethau ledled Powys.

Drwy roi camau gweithredu'r strategaeth ar waith, ein nod yw cydweithio â chymunedau Powys i leihau gwastraff, hyrwyddo ailddefnyddio ac atgyweirio, a chynyddu ailgylchu.

Gyda'n gilydd, byddwn yn lleihau ein heffaith amgylcheddol, yn lleihau ein hôl troed carbon, yn symud tuag at economi gylchol gynaliadwy lle mae adnoddau'n cael eu gwerthfawrogi ac nid yn cael eu gwaredu, ac yn sicrhau dyfodol gwyrddach i bawb.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu