Powys yn ymrwymo i roi terfyn ar drosglwyddiadau HIV

4 Awst 2025

Gwnaed y cyhoeddiad yn Sioe Frenhinol Cymru, ym mhresenoldeb Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn nodi carreg filltir hanesyddol sy'n gwneud Cymru'r Genedl Fast Track gyntaf yn y byd.
Dathlodd llofnodi Datganiad Paris nid yn unig aliniad polisi ond hefyd werthoedd cyffredin, cydnerthedd, a gweledigaeth flaengar ar gyfer iechyd y cyhoedd ledled Cymru.
Mae menter Fast Track Powys yn bartneriaeth amlasiantaethol rhwng Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Powys (PAVO), a sefydliadau cymunedol lleol. Ei nod yw cynyddu profion HIV, lleihau stigma, a hyrwyddo mynediad at offer atal fel PrEP (Proffylacsis Cyn-gysylltiad).
"Mae hon yn foment falch i Bowys ac i Gymru," meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol. "Drwy ymuno â'r rhwydwaith Fast Track, rydym yn dangos ein hymrwymiad i degwch iechyd, cynhwysiant, a phŵer partneriaeth. Efallai ein bod ni'n sir wledig, ond rydyn ni'n benderfynol o sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl yn y frwydr yn erbyn HIV."
Ychwanegodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Mae Fast Track Powys yn ymwneud â mwy na dim ond ystadegau - mae'n ymwneud â phobl. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb ym Mhowys fynediad at y wybodaeth, y gwasanaethau a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i fyw'n dda a heb stigma. Bydd y fenter hon yn ein helpu i adeiladu cymuned iachach, fwy gwybodus a mwy tosturiol."
Mae gan Bowys un o'r cyfraddau HIV isaf yng Nghymru a bydd partneriaid yn cydweithio i ddileu trosglwyddiadau newydd, drwy ymgyrchoedd ymwybyddiaeth wedi'u targedu, gwell mynediad at brofion, ac ymgysylltiad dan arweiniad y gymuned.
"Mae'r foment hon yn hanesyddol nid yn unig am ei bod yn nodi cwmpas rhanbarthol llawn, ond am ei bod yn dangos grym dyfalbarhad a phartneriaeth," meddai Sarah Maslen-Roberts, Rheolwr Fast Track Cymru: "Mae Grŵp Llywio Fast Track Powys wedi bod yn fywiog, yn reddfol ac yn benderfynol; mae wedi bod yn anrhydedd i'w cefnogi yn ystod eu taith i'r pwynt hwn.
"Mae pethau cyffrous yn dod o Bowys ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y maent yn symud y fenter hon yn ei blaen. Rydym yn hynod ddiolchgar am eu brwdfrydedd a'u hymagwedd arloesol sydd wedi dangos pŵer trawsnewidiol gweithredu dan arweiniad y gymuned wrth lunio canlyniadau iechyd y cyhoedd. Mae eu hymrwymiad wedi gosod sylfaen gref ar gyfer cynnydd hirdymor, ac rydym yn awyddus i wylio eu gweledigaeth feiddgar yn dod yn fyw yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."
Ychwanegodd Clair Swales, Prif Weithredwr PAVO: "Mae'n anrhydedd imi lofnodi Datganiad Paris ar ran trydydd sector Powys. Rydym yn falch o fod yn rhan o Fast Track Powys ac i weithio ochr yn ochr â phobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon i ysgogi newid go iawn.
"Dyma hanfod ein sector gwirfoddol - gwrando ar bobl leol a chymunedau a sicrhau bod eu lleisiau'n llywio sut rydym yn gwella gwasanaethau, gan gynnwys iechyd y cyhoedd."
Rhagor o wybodaeth am Fast Track Cymru: https://fasttrackcymru.wales/
Gwasanaethau Iechyd Rhywiol Powys: https://biap.gig.cymru/aros-yn-iach/iechyd-rhywiol/
Iechyd Rhywiol Cymru - profion cartref ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI), gan gynnwys HIV: https://www.ircymru.online/pecyn-profi-a-phostio-sti-cymru/
HIV ac AIDS: https://111.wales.nhs.uk/hivandaids/?locale=cy&term=A
LLUN: Llofnodi Datganiad Paris yn Sioe Frenhinol Cymru gyda Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol (canol).