Toglo gwelededd dewislen symudol

Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan

All Wales Play Opportunities Grant

Cyllid cyfalaf ar gyfer mannau chwarae a meysydd chwarae 2025-26

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Nodau  

Nod y cyllid cyfalaf ar gyfer Mannau Chwarae a Meysydd Chwarae yw darparu gwell cyfleoedd chwarae i blant yn eu cymunedau lleol. Bydd y grant yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ymateb i ddiffygion a nodwyd yn eu Hasesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac yn rhoi hyblygrwydd i brynu eitemau ar raddfa fawr i wella ansawdd mannau chwarae, adnewyddu meysydd chwarae a chefnogi creu mannau chwarae cynhwysol a hygyrch. 

Beth y gellir ei ariannu? 

  1. Mae cyllid y rhaglen hon ar gyfer costau cyfalaf yn unig. Mae gwariant cymwys yn cynnwys costau gosod. Fodd bynnag, er mwyn hawlio costau gosod, rhaid gosod y cyfarpar cyn 30/01/2026.  
  2. Gellir defnyddio'r cyllid i gefnogi mannau chwarae a meysydd chwarae cynhwysol a hygyrch. Wrth ailgynllunio mannau chwarae, dylai awdurdodau lleol gyfeirio at Creu mannau chwarae hygyrch - pecyn cymorth - Chwarae Cymru 
  3. Gall pob gwasanaeth/sefydliad wneud cais am uchafswm o £20,000. Bydd angen 3 dyfynbris ar gyfer eitemau/adnoddau/darnau o offer sengl sy'n costio mwy na £4,999. Nid oes angen defnyddio'r swm uchaf yn llawn, a chaniateir rhoi cynigion ar nifer o eitemau llai. 

Enghreifftiau o'r hyn y gellir ei ariannu 

  • Atgyweirio neu ailgyflenwi cyfarpar mewn mannau chwarae a meysydd chwarae - nid oes rhaid i hyn fod yn gyfarpar chwarae sefydlog o reidrwydd, gall fod yn feinciau hygyrch newydd, ac ati;  
  • Goleuadau mewn mannau chwarae e.e. parciau sglefrio;  
  • Prynu offer diogelwch; 
  • Prynu cyfarpar, fel gazebos neu strwythurau â tho, a fydd yn galluogi gwaith chwarae mynediad agored i barhau mewn tywydd gwael;  
  • Cyfarpar cludadwy i alluogi chwarae peripatetig;  
  • Prynu cyfarpar i hwyluso chwarae ar y stryd;  
  • Prynu cyfarpar i greu llwybrau troed a llwybrau natur sy'n edrych yn naturiol y gellir ymgorffori chwarae plant ynddynt; 
  • Cabanau chwarae i ysgolion i annog chwarae yn y gymuned a gwella chwarae amser egwyl;  
  • Prynu cyfarpar neu strwythurau i gefnogi mannau chwarae cynhwysol a hygyrch. 

Yr hyn na ellir ei ariannu?  

  • Unrhyw gostau a ysgwyddir ar ôl 30/01/2026;  
  • Costau hyfforddi, oni bai eu bod yn benodol gysylltiedig â gweithredu cyfarpar. 

Cwmpas  

Gofynnir i awdurdodau lleol ystyried canlyniadau eu Hasesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac mewn perthynas â'r Materion isod yn benodol wrth ystyried eu cynigion ar gyfer cyllid i wella ansawdd a maint y mannau chwarae / meysydd chwarae:  

  • Mater B - Diwallu anghenion amrywiol, sy'n cyfarwyddo awdurdodau lleol a phartneriaid i geisio cynnig cyfleoedd chwarae sy'n gynhwysol ac sy'n annog pob plentyn i chwarae a chwrdd â'i gilydd.  
  • Mater C - Y lle sydd ar gael i blant chwarae, sy'n cyfarwyddo awdurdodau lleol i gynnal archwiliadau mynediad ym mhob man chwarae dynodedig a gweithredu cynigion i wella mynediad a diogelwch, ac asesu ei werth o ran chwarae; ac,  
  • Mater F - Ymgysylltu â'r gymuned a'i chynnwys, sy'n cyfarwyddo awdurdodau lleol i ymgynghori'n eang â phlant, eu teuluoedd a rhanddeiliaid eraill ar eu barn am y ddarpariaeth chwarae. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â grwpiau perthnasol i wella cyfleoedd chwarae i blant yn eu hardal. 

Er mwyn i blant gael cyfleoedd chwarae digonol, mae angen iddynt gael amser i chwarae, lle i chwarae a chydnabyddiaeth gan oedolion bod gan bob plentyn yr hawl hon fel y caiff pob plentyn yr amser a lle hwn. Bwriad y cyllid grant hwn yw cefnogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r bylchau a nodwyd yn eu Hasesiadau Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, a gwella ansawdd mannau chwarae i blant, gan greu cyfleoedd chwarae cynhwysol a hygyrch. 

  • Cynyddu Hygyrchedd Cyfleusterau Chwarae: Sicrhau y gall pob plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae trwy wneud cyfleusterau chwarae yn fwy hygyrch. 
  • Gwella Offer Chwarae: Mynd i'r afael â'r cais cyffredin am fwy o offer chwarae trwy sicrhau bod cyfleusterau presennol wedi'u cyfarparu'n ddigonol. 

Nyth Nest

Disgwylir i ymgeiswyr ddangos sut mae eu prosiect arfaethedig yn cyd-fynd ag egwyddorion fframwaith Nyth Nest. Mae hyn yn cynnwys creu amgylcheddau chwarae sy'n ddiogel yn emosiynol, yn feithringar ac yn gefnogol i ddatblygiad sy'n hyrwyddo llesiant a gwydnwch. Dylai ceisiadau amlinellu'n glir sut y bydd dyluniad, cyflwyniad ac ethos eu darpariaeth chwarae yn adlewyrchu dull Nyth Nest, gan sicrhau bod anghenion emosiynol a chymdeithasol plant yn ganolog i'r profiad chwarae.

Ardaloedd o angen  

  • Dylai'r cyllid hwn ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae plant mewn mwy o berygl o fod yn agored i niwed.  
  • Mae'n debygol y bydd gan awdurdodau lleol wybodaeth leol am yr ardaloedd hyn ond nod Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC)2 oedd nodi'r ardaloedd bach yng Nghymru sydd â'r amddifadedd mwyaf. Yr ardaloedd daearyddol a ddefnyddir i gyfrifo MALlC yw'r 1,909 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yng Nghymru. Poblogaeth gyfartalog Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is yw 1,600. Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod eu cyllid yn hygyrch i'r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is â'r amddifadedd mwyaf o ran incwm yn eu hardal. 

Bydd y panel yn defnyddio system sgorio i sicrhau gwerthusiad teg a chyson o'r holl geisiadau. Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn set o feini prawf a ddiffiniwyd ymlaen llaw. 

Mae'r cynllun yn agored i bob sector. 

Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 12 Medi 2025 - 9yh. 

Ni chaiff unrhyw geisiadau hwyr eu hystyried. 

Bydd ceisiadau'n cael eu trafod a'u hystyried gan banel. Disgwylir i bob prosiect gwblhau a darparu adborth/gwerthusiadau/astudiaethau achos erbyn 31ain Mawrth 2026. 

Ffurflen Gais

Cynnig Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Cynnig Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu