Nyrs hir dymor yn derbyn gwobr Barcud Arian yn Sioe Frenhinol Cymru

6 Awst 2025

Cyflwynwyd gwobr Barcud Arian i Mrs Joy Groves, o Lanfair-ym-Muallt, gan y Cynghorydd William Powell yn ystod seremoni yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Iau 24 Gorffennaf.
Dechreuodd ei gyrfa nyrsio ym 1983, gan weithio yn Ysbyty Gymunedol Llanfair-ym-Muallt cyn symud i weithio yn Ysbyty Coffa Llandrindod am gyfnod byr. Yn dilyn hyn, daeth Joy yn nyrs gymunedol yn Llanfair-ym-Muallt lle aeth ymlaen i gwblhau ei gradd meistr mewn nyrsio ardal.
Mae Joy wedi nyrsio cannoedd o bobl leol, ac wedi gwasanaethu gyda graslonrwydd, tosturi ac ymrwymiad at ragoriaeth. Bydd hi'n ymddeol ym mis Medi ar ôl 42 mlynedd o wasanaeth. Mae hi'n ysbrydoliaeth i'w chydweithwyr ac wedi cael effaith enfawr ar lwyddiant llawer o fyfyrwyr nyrsio a nyrsys sydd newydd gymhwyso.
Wrth sôn am y wobr, dywedodd y Cynghorydd William Powell, Cadeirydd Cyngor Sir Powys: "Roedd yn fraint wirioneddol cwrdd â Joy - a chyflwyno gwobr gyntaf y Barcud Arian yn fy nhymor yn y Swydd. Mae ymrwymiad Joy i'w chymuned yn Llanfair-ym-Muallt, i ofal o ansawdd uchel ac i ddysgu a datblygiad gydol oes, yn ei gwneud hi i sefyll allan am gydnabyddiaeth.
"Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'm cydweithiwr, y Cynghorydd Jeremy Pugh, am ei enwebiad caredig, gan ddod â Joy i'n sylw."
Mae gwobrau Barcud Arian yn wobrau dinesig a gyflwynir i bobl sy'n byw ym Mhowys ac sydd wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn eu cymuned neu wedi cyflawni rhywbeth eithriadol yn eu maes. Gwneir enwebiadau i Gadeirydd y Cyngor drwy gydol y flwyddyn gan Gynghorwyr a'u dyfarnu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd.