Toglo gwelededd dewislen symudol

Parc newydd cyffrous a gwelliannau i feysydd chwarae ym Mhowys

Child in playground

08 Awst 2025

Child in playground
Bydd maes chwarae newydd o'r radd flaenaf yn dod i Bowys, ynghyd â chyfle i gymunedau ailwampio eu parciau lleol, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Dyfarnwyd dros £200,000 i Gyngor Sir Powys i wella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae i blant.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i greu maes chwarae newydd yn Ne Powys ac i gefnogi prosiectau lleol dan arweiniad y gymuned i wella eu mannau chwarae lleol.

Bydd y maes chwarae newydd wedi'i lleoli yn Y Promenâd yn Aberhonddu a bydd yn darparu lle y gall plant o bob gallu chwarae gyda'i gilydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol, y Cynghorydd Sandra Davies: "Rwy'n falch iawn o dderbyn yr arian hwn drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru."

"Mae'r grant hwn yn ein galluogi i wella a chreu cyfleusterau chwarae o ansawdd uchel ym Mhowys, gan gynnig ardaloedd chwarae modern a hygyrch i blant a theuluoedd. Bydd y gwelliannau hyn yn cyfrannu at eu hiechyd a'u lles ac yn caniatáu iddynt greu atgofion plentyndod gyda ffrindiau yn eu cymunedau lleol."

Bydd y maes chwarae newydd yn hygyrch i deuluoedd drwy drafnidiaeth gyhoeddus ac o fewn pellter cerdded o ganol y dref. Mae gan y safle hefyd ddigon o gyfleusterau parcio a thoiledau gerllaw.

Bydd y parc yn cael ei gynllunio mewn cydweithrediad ag Ysgol Penmaes i greu Ardaloedd Chwarae Cynhwysol i ddatblygu maes chwarae y gall plant o bob gallu ei fwynhau. Gwahoddir grwpiau cymunedol, cynghorau tref a chymuned, a sefydliadau trydydd sector i wneud cais am y Cynllun Grantiau Bach i Ganolig i wella mannau chwarae a chyfarpar lleol.

Gall pob sefydliad wneud cais am uchafswm o £20,000 ar gyfer:

  • Gwella hygyrchedd a chynhwysiant mannau chwarae
  • Mynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth ar gyfer plant hŷn a phlant ag ADY
  • Cefnogi mentrau chwarae dan arweiniad y gymuned
  • Hyrwyddo mynediad teg i fannau chwarae o ansawdd uchel

Ymgeisiwch yma - Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu