Cyngor Powys yn ceisio barn ar bolisi drafft newydd sy'n ymwneud â'i ystad fferm

14 Awst 2025

Bydd y polisi drafft sy'n nodi'r weledigaeth strategol arfaethedig, amcanion rheoli ac arferion gwaith ar gyfer ystâd wledig y cyngor, yn disodli Polisi a Chynllun Cyflawni Ystad Ffermydd y Sir 2018 presennol.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jake Berriman; "Mae'r Polisi Ystad Ffermydd drafft eisoes wedi'i brofi a'i addasu gan y Grŵp Ymgynghori ar Ystad Ffermydd a sefydlwyd i fy nghynghori i a'r Cabinet ar y fframwaith gweithredol ar gyfer ystâd wledig y cyngor. Byddant hefyd yn fy helpu i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad i helpu i sicrhau bod y dull polisi newydd yn gweithio i denantiaid, yr amgylchedd, cymunedau a'r cyngor.
"Nod y polisi yw sicrhau bod yr ystad yn ased deinamig, cydnerth, a blaengar, sy'n cefnogi uchelgeisiau ehangach y cyngor a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol Cryfach, Tecach, Gwyrddach, gan gyflawni ein dull cynaliadwy ym Mhowys. Wedi'i ddefnyddio ar y cyd â Pholisi Asedau Corfforaethol y Cyngor, bydd y polisi drafft yn cefnogi Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, ond yn bendant nid map llwybr na rhaglen o werthu asedau mohono.
"Fodd bynnag, mae'n ddull sy'n ceisio rhesymoli ein hasedau, cael gwared ar ddiffygion a chadw tir lle bynnag y bo modd er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd newydd i gefnogi rhwydweithiau bwyd lleol gwydn a ffermio, i greu ystad wledig cydnerth, cynhyrchiol a chynhwysol sy'n meithrin y tir, yn cefnogi cymunedau, ac yn cyfrannu at economi wledig gynaliadwy a ffyniannus,"
"Rydym yn awyddus i weithio gyda'r diwydiant ac yn bwriadu ymgynghori â thenantiaid presennol, undebau ffermio a Chwmnïau Ffermwyr Ifanc. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus eang ar draws amrywiaeth o lwyfannau, gan gynnwys papurau newydd lleol a chyfryngau digidol, i annog adborth gan ystod eang o ffynonellau a rhanddeiliaid."
Bydd y polisi'n cael ei ystyried mewn cyfarfod o'r Cabinet ddydd Mawrth 19 Awst.