Mae Cyngor Sir Powys yn llongyfarch dysgwyr ar ganlyniadau Lefel A a Lefel 3

14 Awst 2025

Mae'r cyngor wrth ei fodd yn gweld cymaint o ddysgwyr Powys yn cyrraedd y graddau sydd eu hangen arnynt i gymryd eu camau nesaf - boed hynny'n mynd i'r brifysgol, dechrau prentisiaeth, neu fynd i'r byd gwaith - ac yn dechrau cyfnod cyffrous newydd.
Unwaith eto eleni, mae dysgwyr Powys wedi dangos ymrwymiad a phenderfyniad rhagorol, gyda nifer sylweddol yn cyrraedd y graddau uchaf. Mae'r sir wedi gweld canlyniadau cryf mewn graddau A* ac A, yn ogystal â chanlyniadau rhagorol mewn cymwysterau galwedigaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae pleser gennyf longyfarch ein holl ddysgwyr sy'n derbyn eu canlyniadau heddiw.
"Mae eu cyflawniadau'n achos balchder mawr, ac mae'n ysbrydoledig clywed eu straeon unigol o lwyddiant.
"Hoffwn ddiolch i staff yr ysgol am eu cefnogaeth barhaus, a'r teuluoedd sydd wedi bod yn rhan allweddol o lwybrau addysgol eu plant.
"Mae gan bobl ifanc Powys dalent a photensial eithriadol. Maent wedi rhagori mewn sawl maes - o lwyddiant academaidd i'r celfyddydau creadigol a chwaraeon.
"Mae ganddynt ddyfodol disglair o'u blaen, a dymunwn bob llwyddiant iddynt wrth iddynt gymryd eu camau nesaf."