Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwahodd y gymuned leol i noson agored gymunedol yng Nghyfleuster Crynhoi Gogledd Powys

North Powys Bulking Facility in Abermule

20 Awst 2025

North Powys Bulking Facility in Abermule
Gwahoddir aelodau o'r gymuned leol i fynychu noson agored gymunedol yng Nghyfleuster Crynhoi Gogledd Powys yn Aber-miwl i gael gwybod am gynlluniau ar gyfer y dyfodol ar gyfer y safle a gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu'r cyngor.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 2 Medi, rhwng 5pm a 7pm, a bydd ymwelwyr yn gallu cael taith o amgylch y safle a sgwrs gyda staff am sut mae'r cyfleuster yn gweithredu ar hyn o bryd a chael gwybod mwy am y cynlluniau i dderbyn gwastraff gweddilliol yn y safle.

Mae Cyfleuster Crynhoi Gogledd Powys yn Aber-miwl wedi bod yn gwbl weithredol ers mis Medi 2023 ac mae eisoes wedi bod yn ased gwych i'r cyngor, fel cyfleuster i dderbyn a chrynhoi ailgylchu ymyl y ffordd o ogledd y sir. Mewn ymgais i leihau costau, lleihau ein hôl troed carbon a sicrhau bod gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu'r cyngor yn parhau i fod yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, rydym bellach yn bwriadu defnyddio capasiti'r safle yn llawn, yn unol â'r gofynion seilwaith a amlinellwyd yn y Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy a gymeradwywyd yn ddiweddar

Fel y cyfryw, byddwn yn cyflwyno cais cynllunio cyn bo hir o dan adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i dderbyn a chrynhoi gwastraff gweddilliol (gwastraff a gesglir mewn biniau ar olwynion a bagiau porffor) o ogledd y sir yn y safle, cyn iddo gael ei drosglwyddo i gyfleuster trin gwastraff.

Cynlluniwyd y safle mawr ar gyrion y pentref yn benodol i ganiatáu i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu'r cyngor gael eu rhedeg yn effeithlon ac yn ddiogel. Ynghyd â'r caniatâd cynllunio presennol, mae'r safle hefyd yn gweithredu o dan Drwydded Amgylcheddol a gyhoeddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae hyn yn caniatáu i'r gwastraff a ganiateir, gan gynnwys gwastraff gweddilliol ac ailgylchadwy (fel gwastraff bwyd, papur, cerdyn, plastig, caniau, gwydr a gwastraff gardd), gael ei storio yn y safle cyn ei drosglwyddo i'w brosesu. Mae'r drwydded yn cynnwys gofynion llym o ran sut y gweithredir y safle i sicrhau bod unrhyw effaith ar yr amgylchedd neu'r gymuned leol yn cael ei rheoli a'i lleihau i'r eithaf.

"Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gymuned leol i'n noson agored am sgwrs wyneb yn wyneb am y cynlluniau, a chyfle i weld drostynt eu hunain sut mae'r safle yn cael ei gweithredu a sut mae unrhyw effeithiau posibl yn cael eu rheoli." Esbonia'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet Powys Wyrddach.

"Mae'r safle eisoes yn gweithio'n dda ac mae ganddo ddigon o gapasiti i dderbyn gwastraff gweddilliol heb orfod gwneud unrhyw newidiadau i'r ffordd y mae'n cael ei weithredu, sy'n golygu na ddylai'r gymuned leol sylwi ar unrhyw newidiadau o gwbl. Bydd y safle'n parhau i gael ei redeg i'r safonau uchaf ac yn cael ei fonitro yn unol â gofynion llym trwydded amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru.

"Ar hyn o bryd, mae gwastraff gweddilliol o ogledd y sir yn cael ei gymryd i orsaf drosglwyddo trydydd parti am gost sylweddol i'r cyngor yn ogystal ag arwain at amser teithio ychwanegol ac allyriadau carbon o fflyd y cerbydau casglu. Drwy ddefnyddio'r safle i'w lawn botensial, gallwn redeg ein gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn fwy cynaliadwy, lleihau costau a lleihau ein hôl troed carbon."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu