Cyngor Powys yn ceisio barn ar bolisi drafft newydd sy'n ymwneud â'i ystad fferm

22 Awst 2025

Bydd y polisi drafft sy'n nodi'r weledigaeth strategol, amcanion rheoli ac arferion gwaith arfaethedig ar gyfer ystâd wledig y cyngor yn disodli Polisi a Chynllun Cyflawni presennol Ystâd Ffermydd Sirol 2018 a bydd yn destun ymgynghoriad chwe wythnos.
Bydd y polisi drafft ar gael i'w weld a gwneud sylwadau arno ar wefan y cyngor www.powys.gov.uk
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Jake Berriman; "Mae'r Polisi Ystâd Fferm drafft eisoes wedi'i brofi a'i addasu gan y Grŵp Cynghori ar Ystadau Fferm a sefydlwyd i fy nghynghori i a'r Cabinet ar y fframwaith gweithredol ar gyfer ystâd wledig y cyngor. Byddant hefyd yn fy helpu i ystyried ymatebion yr ymgynghoriad i helpu i sicrhau bod y polisi newydd yn gweithio i denantiaid, yr amgylchedd, cymunedau a'r cyngor.
"Nod y polisi yw sicrhau bod yr ystâd yn ased deinamig, cadarn a blaengar, sy'n cefnogi uchelgeisiau ehangach y cyngor a nodir yn ein Cynllun Corfforaethol: Cryfach Tecach Gwyrddach, gan gyflawni ein dull gweithredu, Powys Gynaliadwy. O'i ddefnyddio ar y cyd â Pholisi Asedau Corfforaethol y Cyngor, bydd y polisi drafft yn cefnogi Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, ond yn bendant, nid yw'n fap llwybr nac yn rhaglen o werthiannau asedau.
"Fodd bynnag, mae'n ddull gweithredu sy'n ceisio rhesymoli ein hasedau, gwaredu rhwymedigaethau a chadw tir lle bynnag y bo'n bosibl er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd newydd i gefnogi rhwydweithiau bwyd lleol cadarn a ffermio, i greu ystâd wledig gadarn, gynhyrchiol a chynhwysol sy'n meithrin y tir, yn cefnogi cymunedau, ac yn cyfrannu at economi wledig ffyniannus, gynaliadwy.
"Ynghyd â chadeirydd ac is-gadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ystadau Fferm rwyf eisoes wedi cyfarfod â'r tri phrif undeb ffermio sy'n cynrychioli ein tenantiaid ac mae gennym ddyddiad yn y dyddiadur i gwrdd â Chymdeithas y Ffermwyr Tenant, ond mae hwn yn ymgynghoriad i bawb.
"Rydym yn awyddus i glywed gan ffermwyr ifanc a phawb sydd â diddordeb gwirioneddol yn yr ystâd a'i dyfodol," ychwanegodd.