Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau ailgylchu cartrefi a gwastraff gweddilliol (bin du, sachau porffor) dros wythnos Gŵyl y Banc.

Pleidleiswyr post ym Mhowys yn cael eu hannog i ailymgeisio cyn ddyddiad cau 2026

Image of a postal vote

26 Awst 2025

Image of a postal vote
Bydd preswylwyr ym Mhowys sy'n pleidleisio drwy'r post yn derbyn llythyr i roi gwybod iddynt fod yn rhaid iddynt ailymgeisio am eu pleidlais bost i barhau i wneud hynny, yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU.

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae trefniadau pleidlais bost bellach yn para am uchafswm o dair blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i unrhyw un a wnaeth gais am bleidlais bost cyn 31 Hydref 2023 gyflwyno cais newydd erbyn 31 Ionawr 2026, er mwyn sicrhau y gall barhau i bleidleisio drwy'r post mewn etholiadau penodol.

Mae Emma Palmer, Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Powys, yn annog preswylwyr i weithredu'n gynnar: "Rydym yn gwybod bod llawer o bobl ym Mhowys yn dibynnu ar bleidleisio drwy'r post gan ei fod yn fwy cyfleus neu hygyrch. Mae'r newidiadau hyn wedi'u cynllunio i wella diogelwch y broses bleidleisio, ond maent yn golygu bod angen i bleidleiswyr gymryd camau i osgoi colli eu pleidlais bost."

I ailymgeisio, bydd angen i bleidleiswyr ddarparu eu dyddiad geni, rhif Yswiriant Gwladol a llofnod ysgrifenedig. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/apply-postal-vote, neu ar ffurflen bapur, y gellir ei lawrlwytho o wefan Cyngor Sir Powys.

Cysylltir â phreswylwyr yr effeithir arnynt drwy e-bost neu lythyr dros y misoedd nesaf.  Byddem yn annog preswylwyr sy'n fodlon ac yn gallu gwneud hynny, i fynd ar-lein ar www.gov.uk/apply-postal-vote i helpu i arbed anfon llythyrau atgoffa costus. Fodd bynnag, rydym yn deall bod angen neu fod yn well gan rai preswylwyr geisiadau papur.

Os na fydd cais newydd yn dod i law erbyn y dyddiad cau, bydd y bleidlais bost yn cael ei chanslo, a bydd angen i'r pleidleisiwr bleidleisio'n bersonol yn eu gorsaf bleidleisio leol, oni bai bod cais newydd yn cael ei gyflwyno.

Anogir preswylwyr i beidio ag aros am nodyn atgoffa ac i ailymgeisio cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eu pleidlais yn cael ei diogelu.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth am y broses ymgeisio am bleidlais bost, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Sir Powys yn electoral.services@powys.gov.uk neu 01597 826202.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu