Cyhoeddi ad-drefniant o'r Cabinet gan Arweinydd Cyngor Sir Powys

1 Medi 2025

Mae'r ad-drefnu wedi'i gynllunio i adeiladu ar gryfderau presennol y Cabinet gan gyflwyno safbwyntiau newydd i feysydd allweddol o waith y cyngor.
"Rwy'n credu y bydd y newidiadau hyn yn ein helpu i adeiladu ar yr arbenigedd ry'n ni wedi'i ddatblygu yn ogystal â dod ag egni newydd i'n Cabinet," meddai'r Cynghorydd Berriman.
"Mae'r ad-drefnu hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y cyngor i gyflawni Powys gynaliadwy, gynhwysol a blaengar, gyda thîm y Cabinet wedi'i arfogi i gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau."
Fel rhan o'r newidiadau, bydd y Cynghorydd Sian Cox yn camu i lawr o'i rôl yn y Cabinet ac mae'r Cynghorydd James Gibson-Watt wedi cytuno i aros ar y Cabinet, tra bydd y Cynghorydd Pete Roberts yn ymgymryd â phortffolio newydd.
"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r Cynghorydd Cox am ei hymroddiad a'i gwasanaeth yn ei rôl yn y Cabinet, ac am wneud lle i'r newidiadau hyn. Rydym wedi gwerthfawrogi ei chyfraniad yn fawr iawn," meddai'r Cynghorydd Berriman.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cynghorydd Gibson-Watt am gytuno i aros ar y Cabinet ac i ddod yn Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu, a fydd yn cynnwys addysg ôl-16.
"Mae'r Cynghorydd Roberts wedi cytuno i ddod yn Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar, ar ôl gwneud llawer o'r gwaith trwm wrth drawsnewid addysg."
Aelodau Cabinet a Chyfrifoldebau Portffolio o 1 Hydref 2025:
Y Cynghorydd Jake Berriman: Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Pobl, Perfformiad a Phartneriaethau
- Busnes y Cabinet
- Datblygu a chynnal partneriaethau, gan gynnwys y Cydbwyllgor Corfforaethol a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
- Gwasanaethau Pobl - Y Gweithlu a datblygu a chymorth Aelodau
- Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, gan gynnwys Cyd-gadeirydd y JCNC
- Rheoli Perfformiad Corfforaethol
- Cynllunio Strategol a Datblygu Lleol
- Eiddo, gan gynnwys Ffermydd y Sir
Y Cynghorydd Matthew Dorrance: Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach
- Gwasanaethau Tai, gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr
- Trechu Tlodi, gan gynnwys y Gwasanaeth Cynghori Ariannol
- Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gan gynnwys Addewid y Rhuban Gwyn
- Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
- Partneriaeth a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog
- Ffoaduriaid
Y Cynghorydd Glyn Preston: Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus
- Datblygu Fframwaith Economaidd Strategol ar gyfer Powys
- Sicrhau cyfleoedd buddsoddi economaidd ar draws ardaloedd Powys
- Cefnogi Bargen Dwf Canolbarth Cymru a'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol
Y Cynghorydd David Thomas: Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol
- Cyflawni Rhaglen Drawsnewid Powys Gynaliadwy
- Cyllid
- Caffael, Incwm a Dyfarniadau, a Chynllunio Busnes Integredig
- Rheoli Risg
Y Cynghorydd Pete Roberts: Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar
- Gofal Cymdeithasol Oedolion a Chomisiynu
- Rhaglen Les Gogledd Powys
- Integreiddio'r System Ofal gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Datblygu Ymgysylltu Cymunedol i gefnogi gwaith yn yr ardal leol
Y Cynghorydd Richard Church: Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio
- Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd
- Safonau Masnach
- Cynllunio ar gyfer Argyfwng a Diogelwch Cymunedol
- Gwasanaethau Rheoli Datblygu a Rheoli Adeiladu
- Gwasanaethau Cyfreithiol
- Ombwdsmon, Gwasanaethau'r Crwner a Chofrestryddion
Y Cynghorydd James Gibson-Watt - Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy'n Dysgu
- Addysg
- Rhaglen Drawsnewid Ysgolion
- Dysgu Ôl-16 a Datblygu Sgiliau, gan gynnwys partneriaethau gydag Addysgu Uwch, Addysg Bellach, Dysgu yn y Gweithle a darparwyr yn y gymuned
Y Cynghorydd Jackie Charlton - Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach
- Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio
- Priffyrdd ac Ailgylchu
- Trafnidiaeth, gan gynnwys Trafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol
- Gwasanaethau Cefn Gwlad
- Materion Amgylcheddol
Y Cynghorydd Sandra Davies - Aelod Cabinet ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol
- Gwasanaethau Plant
- Cyfiawnder Ieuenctid
- Gwasanaethau Ieuenctid
- Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol
- Y Gymraeg
Y Cynghorydd Raiff Devlin - Aelod Cabinet ar gyfer Cwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol
- Gwasanaethau Cwsmer a Llywodraethu Gwybodaeth
- Rhaglen Powys Ddigidol
- Hamdden a Diwylliant, gan gynnwys Theatrau, Llyfrgelloedd, Amgueddfeydd ac Archifau
- Cefnogi'r Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy ar gyfer Powys, gan gynnwys Arlwyo a Glanhau