Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus newydd Powys

Image of a bus on a rural road

1 Medi 2025

Image of a bus on a rural road
Bydd newidiadau ac uwchraddiadau i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus Powys yn dod i rym o heddiw, dydd Llun 1 Medi.

Yn dilyn ymarfer ymgysylltu ac ymgynghori cynhwysfawr, mae'r cyngor wedi ymrwymo buddsoddiad ariannol sylweddol ac wedi diwygio ei amserlenni bysiau lleol a'i lwybrau gwasanaeth, gan ymgorffori adborth y cyhoedd i sicrhau rhwydwaith trafnidiaeth fwy effeithlon, cynhwysol a chynaliadwy.

Nod y rhwydwaith wedi'i uwchraddio yw cyflawni uchelgais Powys Gynaliadwy o gysylltu cymunedau ac ardaloedd â'u trefi craidd o fewn awr o amser teithio. Mae hefyd yn darparu ar gyfer gwasanaethau pellter hirach ledled y sir ac ar gyfer teithio ymlaen i drefi a dinasoedd mwy ar draws y ffiniau y gallai fod angen i drigolion Powys eu cyrraedd ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau eraill nad ydynt ar gael yn lleol.

"Gyda chynnydd mewn llwybrau, niferoedd bysiau a mwy o opsiynau teithio gyda'r nos a phenwythnosau, o heddiw ddydd Llun 1 Medi, gall cymunedau Powys elwa o sir fwy cysylltiedig." eglura'r Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Werddach.

"Gyda chontractau saith mlynedd newydd wedi'u dyfarnu i amrywiaeth o weithredwyr trafnidiaeth lleol a rhanbarthol, mae'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i uwchraddio ym Mhowys yn anelu at ddarparu gwasanaethau mwy dibynadwy ac amlach mewn ardaloedd gwledig gyda chysylltiadau gwell rhwng trefi a gwasanaethau allweddol.

"Ynghyd â gwell darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, rydym wrth ein bodd y bydd pobl ifanc Powys hefyd yn elwa o estyniad consesiwn teithio pobl ifanc Llywodraeth Cymru (MyTravelPass), gan ganiatáu iddynt deithio ar fysiau o fewn Cymru am ddim ond £1."

Mae manylion y gwasanaethau newydd ar gael ar-lein: Bysiau Lleol

I wirio amserlenni a chynllunio eich taith, defnyddiwch Gynlluniwr Taith Traveline Cymru: www.traveline.cymru   

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu