Toglo gwelededd dewislen symudol

Mae Powys yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2025

Gas Safety Week

03 Medi 2025

Gas Safety Week
Mae Cyngor Sir Powys wedi addo cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy (8-14 Medi 2025).

Mae Wythnos Diogelwch Nwy yma i atgoffa'r cyhoedd a busnesau sut i gadw eu hunain yn nwy-ddiogel, ac mae sefydliadau ledled y wlad yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o beryglon offer nwy sydd heb gael eu cynnal a chadw'n iawn, ac offer sydd heb eu gosod yn iawn. Gall y rhain achosi gollyngiadau nwy, tanau, ffrwydradau a gwenwyn carbon monocsid (CO).

Eleni ar gyfer Wythnos Diogelwch Nwy, y thema yw 'Gofalu am eich cartref, ffrindiau, teulu', gan bwysleisio bod gan bawb ran i'w chwarae wrth gadw ei gilydd yn ddiogel, p'un a yw hynny'n ofalu am deulu agos, teulu estynedig, ffrindiau, cymdogion neu denantiaid, neu rannu cyngor â nhw - gallwn ni i gyd wneud ein rhan i gadw'r genedl yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol: "Rydym yn falch o fod yn cefnogi Wythnos Diogelwch Nwy 2025, gan helpu i ofalu am ein cartref, ffrindiau a theulu, a chadw ein cymunedau'n ddiogel.

"Rwy'n annog holl drigolion a busnesau Powys i fod yn wyliadwrus. Dilynwch y cyngor a'r canllawiau y mae'r Gofrestr Diogelwch Nwy wedi'u cyhoeddi gan y bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich offer nwy yn rhydd rhag gollyngiadau a pheryglon eraill, a'u bod yn ddiogel i'w defnyddio.

"Sicrhewch eich bod bob amser yn defnyddio peiriannydd cofrestredig Gas Safe cymwys i wasanaethu eich offer, ac os nad yw rhywbeth yn edrych yn iawn, cysylltwch â'r Gofrestr Diogelwch Nwy a fydd yn gallu eich cefnogi."

Dywedodd Rob Denman, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Nwy ar y Gofrestr Diogelwch Nwy: "Dyma'r bymthegfed Wythnos Diogelwch Nwy ac mae thema 2025 'Gofalu am eich cartref, ffrindiau a theulu' yn canolbwyntio ar yr awydd i ni gyd gadw'r rhai rydym yn gofalu amdanynt yn ddiogel. Mae pob Wythnos Diogelwch Nwy, ein partneriaid, rhanddeiliaid a'r Gofrestr Diogelwch Nwy yn rhannu gwybodaeth i helpu pawb i fod yn ddiogel o ran nwy ac rwyf wrth fy modd bod Cyngor Sir Powys yn helpu i rannu'r neges a phwysigrwydd sicrhau bod pawb ond yn defnyddio peiriannydd sydd wedi cofrestru a chymhwyso." 

Cadwch at ddiweddariadau a chyngor y Gofrestr Diogelwch Nwy drwy gydol Wythnos Diogelwch Nwy drwy ddilyn @GasSafeRegister ar Facebook, X ac Instagram a gwneud chwiliad am #GSW25.

Mae'r thema'n newid bob blwyddyn, ond mae'r negeseuon am nwy diogel yn aros yr un fath.  Fel erioed, dyma rai awgrymiadau a gwiriadau syml y gallwch eu gwneud gartref a'u rhannu gyda'ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr, cymdogion a thenantiaid:

  • Trefnu eich gwiriad diogelwch nwy blynyddol.Dylai offer nwy gael ei wirio i weld ei fod yn ddiogel unwaith y flwyddyn a'i wasanaethu'n rheolaidd gan beiriannydd cofrestredig Gas Safe. Felly denantiaid, sicrhewch fod eich landlord yn trefnu hyn.
  • Gwiriwch fod eich peiriannydd wedi cofrestru gyda Gas Safe. Dylech bob amser ddefnyddio peiriannydd cofrestredig Gas Safe a sicrhau eu bod yn gymwys ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud drwy wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy a cherdyn adnabod y peiriannydd.
  • Cadwch lygad allan am arwyddion rhybuddio a allai ddangos nad yw eich teclynnau nwy yn gweithio'n iawn. Gall arwyddion gynnwys fflamau melyn/oren diog yn hytrach na rhai glas bywiog, marciau du ar neu o amgylch yr offer, golau peilot sy'n diffodd o hyd, gormod o gyddwysiad yn yr ystafell, neu negeseuon sy'n dynodi diffygion ar banel rheoli'r offer.
  • Sicrhewch nad yw fentiau a/neu ffliwiau eich cartref yn cael eu rhwystro.Mae fentiau a ffliwiau yno i sicrhau bod eich offer nwy yn gweithio'n ddiogel. Gallai eu blocio atal hyn.
  • Gwiriwch eich gwybodaeth.Cofiwch chwe phrif symptom gwenwyn carbon monocsid: cur pen, pendro, colli anadl, codi pwys, ymgwympiad, a cholli ymwybyddiaeth.
  • Prynu a phrofi larwm carbon monocsid (CO) clywadwy yn rheolaidd. Mae profion rheolaidd yn sicrhau bod larymau'n weithredol ac yn gallu eich rhybuddio am bresenoldeb CO marwol. Hefyd, gwiriwch eu bod wedi'u marcio i safon EN50291 ac yn parhau i fod o fewn y dyddiad (os yw'n berthnasol).
  • Peidiwch byth â gwneud DIY gyda nwy.Cyn drilio neu forthwylio, gwiriwch nad oes risg o daro pibell nwy.Peidiwch byth â gwneud DIY ar gyfarpar nwy; os ydych yn amau bod rhywbeth o'i le ar eich cyfarpar neu nad yw'n gweithio'n iawn, ffoniwch beiriannydd cofrestredig Gas Safe. Gallwch ddod o hyd i un yn GasSafeRegister.co.uk neu ffoniwch 0800 408 5500.

Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw'r gofrestr swyddogol ar gyfer peirianwyr sydd â chymwysterau cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i beiriannydd cofrestredig yn eich ardal drwy fynd i wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy yn GasSafeRegister.co.uk.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu