Cyngor yn canmol ysgol Arddlîn am adroddiad arolygiad rhagorol

4 Medi 2025

Disgrifiwyd Ysgol Gynradd Arddlîn gan Estyn fel 'ysgol gynnes a chroesawgar gyda theimlad cymunedol cryf, lle mae staff a disgyblion yn trin ei gilydd â gofal a pharch'. Ychwanegodd Estyn fod 'hyn yn creu amgylchedd tawel, meithringar sy'n cefnogi dysgu a datblygiad yn effeithiol'.
Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, 2 Medi, yn cynnwys adran 'sbotolau' arbennig sy'n dangos arfer gorau, sy'n tynnu sylw at sut mae'r ysgol wedi rhoi blaenoriaeth uchel i Gymru a'r iaith Gymraeg yn ei chwricwlwm a'i haddysgu.
Cafodd yr ysgol ganmoliaeth hefyd am ei hethos cynhwysol, ei harweinyddiaeth gref, a'i chwricwlwm diddorol. Canfu Estyn fod disgyblion wedi gwneud cynnydd cryf ar draws pynciau, gyda chefnogaeth staff sy'n eu hadnabod yn dda ac yn addasu addysgu i ddiwallu anghenion unigol.
Cafodd y pennaeth dros dro ganmoliaeth gan Estyn am feithrin gweledigaeth glir a diwylliant o welliant, tra bod y llywodraethwyr yn darparu goruchwyliaeth effeithiol.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Powys sy'n Dysgu: "Hoffwn longyfarch pawb yn Ysgol Gynradd Arddlîn ar eu harolygiad Estyn llwyddiannus.
"Mae'r adroddiad yn adlewyrchu'n glir ymroddiad y staff, cryfder yr arweinyddiaeth, a'r amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol sy'n cefnogi disgyblion i ffynnu. Mae'n galonogol gweld cynnydd mor gryf mewn dysgu a lles, ac rwy'n arbennig o falch o ymrwymiad yr ysgol i welliant parhaus.
"Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn glod i gymuned yr ysgol gyfan."