Helpwch ni i ddod â chartrefi yn ôl yn fyw - mae'r cyngor yn galw ar drigolion i roi gwybod am eiddo gwag

4 Medi 2025

Mae Cyngor Sir Powys yn galw ar drigolion i ddefnyddio ei Ffurflen Atgyfeirio Eiddo Gwag i roi gwybod am unrhyw gartrefi gwag y maent yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig y rhai sy'n achosi difrod neu leithder i eiddo cyfagos.
Wedi'i lansio ym mis Ebrill 2024, mae'r ffurflen ar-lein eisoes wedi arwain at ddwsinau o ymchwiliadau ac mae'n helpu i ddod â chartrefi nad ydynt yn cael eu defnyddio yn ôl i ddefnydd.
Mae 12 eiddo gwag wedi cael eu hadfer yn llwyddiannus rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf eleni, gyda disgwyl mwy yn y misoedd nesaf.
Mae'r ymdrechion hyn yn rhan o strategaeth ehangach i leihau prinder tai, gwella cymdogaethau, a sicrhau bod eiddo yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymunedau a gwasanaethau lleol.
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 1,550 o eiddo ym Mhowys wedi bod yn wag am fwy na 12 mis, gyda 887 o'r rhain yn destun tâl gwag hirdymor premiwm.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Bowys Decach: "Mae cartrefi gwag yn gyfle a gollwyd pan fo cymaint o bobl angen tai diogel a sicr.
"Drwy roi gwybod am eiddo gwag, gall trigolion ein helpu i gymryd camau i ddod â'r cartrefi hyn yn ôl i ddefnydd a chryfhau ein cymunedau.
"Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach i'n cymunedau."
Gall trigolion roi gwybod am eiddo gwag drwy ymweld â Adrodd am Eiddo Gwag
Mae pob atgyfeiriad yn cael ei ymchwilio gan ddefnyddio data'r Dreth Gyngor a'r Gofrestrfa Tir, a rhoddir blaenoriaeth i achosion lle mae cartrefi cyfagos yn cael eu heffeithio.