Toglo gwelededd dewislen symudol

Portffolio Trawsnewid yn cyflawni arbedion gwerth £10m a gwell gwasanaethau i Bowys

Image of an adult and a child. housing, broadband and a school

5 Medi 2025

Image of an adult and a child. housing, broadband and a school
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod newid trawsnewidiol wedi helpu gwasanaethau'r cyngor i fod yn fwy effeithlon, gan arbed costau o dros £10m gydag effaith gadarnhaol ar breswylwyr Powys.

O wella gofal i deuluoedd bregus ac ehangu opsiynau tai, i foderneiddio ysgolion a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae Portffolio Trawsnewid Cyngor Sir Powys yn ail-lunio sut y mae  gwasanaethau'n cael eu darparu.

Drwy fuddsoddiad wedi'i dargedu, arloesedd a chydweithio, mae'r cyngor wedi gwneud gwasanaethau'n fwy effeithlon, yn fwy ymatebol ac yn llai costus.

Yr wythnos nesaf, bydd Panel Cyllid y cyngor yn ystyried Adroddiad Portffolio Trawsnewid Diwedd y Flwyddyn  2024/25, sy'n cadarnhau bod y cyngor wedi arbed cyfanswm net o £10.8m drwy'r portffolio.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol o'r adroddiad diwedd y flwyddyn mae:  

  • Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles: Mae'r rhaglen Ar Ffiniau Gofal wedi helpu teuluoedd i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal, a gwella sgiliau a hyder rhieni a gofalwyr. Mae'r prosiect Llety 16+ wedi galluogi mwy o bobl sy'n gadael gofal i aros yn agos at deulu a ffrindiau ym Mhowys. Mae'r fframwaith maethu newydd yn galluogi mwy o blant i aros ym Mhowys yn sgil recriwtio 14 o ofalwyr maeth newydd. Mae diwygiadau yn y maes gofal yn y cartref wedi lleihau'r oriau aros am ofal o 39%.
  • Trawsnewid Addysg: Mae'r rhaglen Trawsnewid Addysg wedi dileu £3m o gostau cynnal a chadw oedd wedi'u cronni ar draws yr  ystâd ysgolion. Mae hefyd wedi creu cyfle i fuddsoddi mewn ysgol arbennig newydd o'r radd flaenaf yn y Drenewydd. Mewn ardaloedd eraill o'r sir, mae dwy ysgol fach wedi cau ac mae disgyblion wedi trosglwyddo'n llwyddiannus i amgylcheddau dysgu newydd gyda mwy o gyfleusterau a gwell cyfleoedd.
  • Rhaglen Hinsawdd a Natur: Darparodd 84 o brosiectau datgarboneiddio ar draws 39 o adeiladau ac ysgolion, arbedion ynni wedi'u hamcangyfrif i fod yn £400,000 a 179 tunnell o ostyngiadau CO₂e bob blwyddyn.  Llwyddodd y cyngor i gael £7.2m mewn buddsoddiad cyfalaf ar gyfer 2024/25 a £1.1m ar gyfer prosiectau cynaliadwyedd yn y dyfodol.
  • Cefnogi Ein Cymunedau: Cefnogwyd 130 o brosiectau lleol gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan greu 400 o swyddi a diogelu 1,230 o rai eraill. Cysylltodd y Gronfa Band Eang Lleol 152 o safleoedd anodd eu cyrraedd, gan wella cynhwysiant digidol a galluogi 12 o drefi Powys i gynnig Wi-Fi canol dref am ddim.
  • Cynefin: Mae 118 o gartrefi newydd wedi'u hychwanegu at stoc tai cymdeithasol y cyngor ers dechrau'r rhaglen dair blynedd yn ôl, a bwriedir cyflawni dros 300 yn rhagor erbyn 2030, yn ddibynnol ar ganiatâd a chyllid gan Lywodraeth Cymru. Datblygwyd llyfr dylunio o fathau safonol o dai, gyda'r nod o leihau costau datblygu drwy ymgyfarwyddo contractwyr, adeiladwyr a chyflenwyr â'r gofynion adeiladu.
  • Digidol: Defnyddio cyfleoedd technoleg newydd i fod yn fwy effeithlon a gwella profiad ein cwsmeriaid.

Dywedodd y Cynghorydd David Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Cyllid a Thrawsnewid Corfforaethol: "Nid yw'r Portffolio Trawsnewid yn ymwneud ag arbedion yn unig - mae'n ymwneud ag ail-lunio sut rydym yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion ein preswylwyr a'n cymunedau yn well a gwneud y cyngor yn fwy cynaliadwy. Mae'n ein helpu i adeiladu Powys gryfach, decach a gwyrddach drwy fuddsoddi yn y pethau sydd bwysicaf: cefnogi teuluoedd bregus, creu tai fforddiadwy, moderneiddio addysg, a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

"Mae'r rhaglenni hyn eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, ac maent yn gwbl ganolog i gyflawni ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob preswylydd yn elwa o'r newidiadau rydym yn eu gwneud."

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu