Dathlu wrth i Estyn ganmol cynnydd ysgol

10 Medi 2025

Mae Ysgol Gynradd Tre'r Llai wedi cael ei thynnu'n swyddogol oddi ar restr Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru, o ysgolion y mae angen gwella sylweddol arnynt.
Mae penderfyniad Estyn, sydd wedi cael ei groesawu gan Gyngor Sir Powys, yn benllanw misoedd o waith caled, o gydweithio, ac ymrwymiad i newid cadarnhaol.
Yn ystod eu hymweliad monitro ym mis Gorffennaf, canfu Estyn fod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol wrth fynd i'r afael â phryderon blaenorol.
Mae gweithdrefnau diogelu wedi'u cryfhau'n sylweddol, gan greu amgylchedd diogel sy'n cael ei reoli'n dda. Mae arweinyddiaeth a hunanwerthuso wedi gwella, gyda staff yn gweithio ar y cyd a llywodraethwyr yn chwarae rôl fwy gweithredol.
Mae ansawdd yr addysgu wedi datblygu, yn enwedig mewn mathemateg a chymhwysedd digidol, gyda disgyblion yn dangos mwy o hyder ac ymgysylltiad. Er bod ysgrifennu'n parhau i fod yn faes i'w ddatblygu, yn enwedig ymhlith disgyblion hŷn, mae'r cwricwlwm bellach yn cynnig cyfleoedd dysgu mwy ystyrlon, ac mae disgyblion yn datblygu mwy o annibyniaeth a balchder yn eu gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Pete Roberts, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys sy'n Dysgu: "Mae hyn yn newyddion gwych i Ysgol Gynradd Tre'r Llai ac yn dyst i ymroddiad pawb sy'n gysylltiedig â'i siwrnai gwella.
"Mae'r cynnydd a wnaed o ran diogelu, arweinyddiaeth, ansawdd addysgu a chanlyniadau disgyblion yn drawiadol. Rwy'n arbennig o falch o weld y cydweithio cryfach rhwng yr ysgol a'r cyngor, sydd wedi helpu i greu amgylchedd dysgu mwy diogel ac effeithiol i ddisgyblion.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd i adeiladu ar y llwyddiannau hyn a sicrhau gwelliant parhaus ar gyfer y dyfodol."
Ychwanegodd Mrs Lindsay Clarke, Pennaeth Dros Dro Ysgol Tre'r Llai: "Rydym wrth ein bodd gyda chydnabyddiaeth Estyn o'r cynnydd rydym wedi'i wneud. Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu ymdrech gyfunol ein staff, llywodraethwyr, disgyblion a theuluoedd.
"Rydym wedi gweithio'n galed i adeiladu diwylliant diogelu cryf, i wella addysgu a dysgu, a sicrhau bod ein disgyblion yn cael eu cefnogi i ffynnu. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau â'r daith hon o welliant a darparu'r addysg orau bosibl i'n plant."