Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i wella canlyniadau i breswylwyr

18 Awst 2025

Oherwydd y galw cynyddol a'r pwysau ariannol, cynhaliwyd adolygiad o Wasanaethau Oedolion y cyngor, gan dynnu sylw at y cyfleoedd canlynol i wella:
Cyfleoedd allweddol:
- Cefnogaeth gymunedol gynharach i atal argyfyngau
- Mwy o gymorth galluogi yn y cartref i hybu annibyniaeth
- Helpu oedolion hŷn i barhau i fyw gartref yn hirach
- Cefnogi oedolion o oedran gweithio sy'n derbyn gofal ffurfiol i fyw'n fwy annibynnol
Roedd yr adolygiad yn cynnwys trafodaethau a mewnwelediadau gan staff, defnyddwyr gwasanaeth a phartneriaid allweddol i helpu i lunio'r daith drawsnewid.
Yn seiliedig ar y wybodaeth a'r adborth, mae'r gwasanaeth bellach yn cynllunio sut i weithredu gwelliannau er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i breswylwyr, mewn ffyrdd mwy arloesol ac effeithlon.
Dywedodd y Cynghorydd Sian Cox, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Ofalgar: "Mae popeth a wnawn yn canolbwyntio ar gefnogi pob unigolyn i fyw'r bywyd gorau posibl. Mae hyn yn golygu deall beth sy'n bwysig i bob person, cefnogi eu hannibyniaeth a'u dyheadau, gan ddefnyddio dulliau arloesol mewn technoleg a dulliau gweithredu i wella canlyniadau, ac ar yr un pryd, cynyddu effeithlonrwydd.
"Mae'r cyngor sir yn gweithio tuag at ddod yn 'Bowys Gynaliadwy' ym mhopeth y mae'n ei wneud. Mae'r trawsnewid hwn mewn Gofal Cymdeithasol i Oedolion wedi gwneud cynnydd cyson drwy nifer o raglenni gwaith, ac fe welir rhagor o arloesi, canlyniadau llesiant gwell a mwy o gynaliadwyedd wrth i'r gwaith barhau i ddatblygu."
Cam nesaf y daith drawsnewid yw gweithredu newidiadau i helpu pobl i fyw bywydau iach ac egnïol gartref cyhyd ag sy'n bosibl. Mae'r model newydd yn adeiladu ar fentrau fel Gofal Ychwanegol a chyfleoedd yn ystod y dydd, gan ganolbwyntio ar ddewis, annibyniaeth a chysylltiad.