Contract wedi'i ddyfarnu i greu'r toiled 'Changing Places' cyntaf ym Mhowys

26 Medi 2025

Mae'r cyngor tref, sy'n berchen ar y safle ar Station Crescent, wedi dyfarnu contract ar gyfer y gwaith i Danfo (UK). Bydd y rhain yn cynnwys:
- Ail-lunio cynllun presennol y toiledau.
- Creu toiled cyhoeddus 'Changing Places' cyntaf ym Mhowys, y gall pobl ag anableddau difrifol eu defnyddio, diolch i declyn codi, mainc newid a mwy o le.
- Newid y to presennol.
Bydd Danfo (UK) yn darparu toiledau dros dro i'r cyhoedd, tra bo'r gwaith yn digwydd. Rhaid i'r gwaith gael ei gwblhau cyn diwedd Mawrth 2026.
Mae'r gost yn cael ei dalu gan Gronfa Cyfleusterau Canolbarth Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Gyngor Sir Powys.
Dywedodd Jane Johnston, Clerc Tref Cyngor Tref Llandrindod: "Mae'r cyngor tref yn falch iawn o gael cyllid o £120,000 gan Lywodraeth Cymru i adnewyddu bloc Toiledau Station Crescent, a fydd yn cynnwys yr uned 'Changing Places' gyntaf mewn bloc toiledau cyhoeddus ym Mhowys. Bydd hyn yn galluogi'r trigolion a'r ymwelwyr hynny sydd ag anghenion mwy cymhleth i gael mynediad at gyfleusterau toiled am ddim yn ein tref ac yn mynd gam ymhellach i wneud Llandrindod yn fwy hygyrch.
"Dyfarnwyd grant pellach hefyd i adnewyddu toiledau Parc y Llyn sy'n cael eu rhedeg gan gyngor y dref ar hyn o bryd, a fydd yn cael eu rheoli gan Gyngor Sir Powys gan fod yr adeilad hwn o fewn eu perchnogaeth. Bydd y gwaith ailwampio hwn yn ategu'r gweithgareddau ym Mharc y Llyn."
Mae'r gronfa'n cwmpasu adnewyddu chwe set o doiledau cyhoeddus ym Mhowys, gan gynnwys y ddau safle yn Llandrindod.
Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach, a'r Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus, "Bydd y toiledau cyhoeddus cwbl hygyrch hyn yn gwneud ein sir yn fwy croesawgar i ymwelwyr a thrigolion sy'n galw heibio neu'n pasio drwy Landrindod."
"Mae'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud i chwe set o gyfleusterau cyhoeddus yn uwchraddio'r cyfleusterau toiledau yn y sir yn sylweddol."