Toglo gwelededd dewislen symudol

Sesiynau galw i drafod chwilio am safle Sipsiwn a Theithwyr

A mobile home

1 Hydref 2025

A mobile home
Bydd chwiliad Cyngor Sir Powys am safle newydd ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn ardal y Trallwng yn cael ei drafod mewn sesiwn galw heibio yn Ffordun wythnos nesaf.

Mae'r cyngor yn chwilio am safle 1.2 hectar ar gyfer 12 o gartrefi symudol ac mae wedi nodi chwe safle posibl ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Nhre'r Llai, Ffordun a'r Ystog.

Cynhelir sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Gymunedol Ffordun ddydd Llun 6 Hydref rhwng 4 a 8pm.

Nodwyd yr angen am y safle newydd, sef lle ar gyfer 12 cartref symudol ac sydd â'r potensial i ehangu yn y dyfodol, fel rhan o waith ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys 2022-2037.

Mae angen y safle newydd ar gyfer y gymuned sy'n byw ar y safle sipsiwn a theithwyr sy'n cael ei redeg gan y cyngor yn Leighton Arches ger y Trallwng. Nid oes rhagor o le ar y safle presennol ac nid oes unrhyw gyfle i'w ail-drefnu ymhellach.

Nid yw'n bosibl ymestyn y safle presennol i ddarparu lleiniau ychwanegol gan fod yr ardal wedi'i chyfyngu oherwydd y perygl o lifogydd.

Rhaid i'r safle newydd fod â lle ar gyfer 12 llain ynghyd â mynediad i gyfleuster amwynder, gydag ardaloedd caled dan draed ac o fewn pellter rhesymol i'r safle presennol.

Yn amodol ar gael caniatâd cynllunio a chyllid, disgwylir i'r safle newydd gael ei gwblhau erbyn 2027.

Mae'r cyngor wedi ymchwilio i'r tir sydd ganddo yng nghyffiniau'r Trallwng i weld a allai safle addas fod ar gael ar dir sy'n eiddo i'r cyngor ac mae wedi gosod chwe opsiwn posibl ar y rhestr fer fel ardaloedd chwilio.

Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn ymgynghori ac yn gofyn am farn ar yr opsiynau hyn i lywio'r camau nesaf.

  1. Parsel 1 yn Nhre'r Llai, Y Trallwng (7.83ha): Adeiladau a thir yn Gwyns Barn, Tre'r Llai 
  2. Parsel 2 yn Nhre'r Llai, Y Trallwng (11.39ha): Tir i'r de-orllewin o Severnleigh, Tre'r Llai 
  3. Daliad Tir yn Nhre'r Llai, Y Trallwng (47.12 ha): Adeiladau a thir yn Gwyns Barn, Tre'r Llai 
  4. Parsel 1 yn Ffordun, Y Trallwng (2.92 ha): Tir cyfagos â Phentref Ffordun - i'r gogledd o Church Farm/Church Farm Close, Ffordun 
  5. Parsel 2 yn Ffordun, Y Trallwng (3.6 ha): Tir oddi ar ffordd yr C2114, i'r de/de-orllewin o Church (gyferbyn â Pound Fields), Ffordun 
  6. Daliad Tir yn Yr Ystog, Trefaldwyn (8.26 ha): Pentref cyfagos â Phentref Yr Ystog - tir Fir House, Yr Ystog 

Gellir dod o hyd i ddolen i'r ymgynghoriad yma: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/opsiynau-safleoedd 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu