Feirws y Tafod Glas wedi'i gadarnhau ym Mhowys - perchnogion da byw yn cael eu hannog i aros yn wyliadwrus

6 Hydref 2025

Mae'r achosion, dau ger Llangamarch a'r llall ger Llanfair Llythyfnwg, yn gysylltiedig ag un anifail buchol sydd wedi profi'n bositif am feirws y Tafod Glas. Mae cyfyngiadau symud wedi'u gosod ar y tri safle ac ar hyn o bryd nid oes unrhyw barthau rheoli pellach wedi'u rhoi ar waith ym Mhowys.
Yr wythnos diwethaf (1 Hydref), fe wnaeth Llywodraeth Cymru roi Parth Rheoli Dros Dro newydd ar waith ar gyfer y Feirws Tafod Glas yn Sir Fynwy, yn dilyn achos arall wedi'i gadarnhau o'r feirws Tafod Glas ar fferm ger Cas-gwent.
Nawr, mae Tîm Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Powys yn annog perchnogion da byw i aros yn wyliadwrus ac adrodd am unrhyw achosion a amheuir. Mae'r Tafod Glas yn glefyd anifeiliaid hysbysadwy ac, os yw'n cael ei amau, rhaid i berchnogion da byw ei adrodd ar unwaith i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy ffonio 0300 303 8268.
Mae'r Tafod Glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai rhywogaethau o wybed brathog. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) ac anifeiliaid sy'n perthyn i deulu'r camel (fel alpacas a lamas).
Mae llawer o fathau o'r tafod glas. Nodwyd achosion o seroteip 3 (BTV-3) yn Lloegr ym mis Tachwedd 2023 a gall y firws hefyd gael ei ledaenu trwy gynhyrchion cenhedlog (semen, ofa, ac embryonau) yn ogystal â'i drosglwyddo'n famol o'r fam i epil heb ei eni.
Gall arwyddion clinigol, pan fyddant yn bresennol, gynnwys: twymyn, cramennu ac wlserau o amgylch y trwyn, pen chwyddedig, poeri a chloffni. Efallai y byddwch hefyd yn gweld arwyddion eraill gan gynnwys cynnyrch llaeth is, erthyliadau a theimlad o anhwylder.
Nid yw'r Tafod Glas yn effeithio ar bobl na diogelwch bwyd.
Y prif fesurau rheoli ar gyfer y Tafod Glas yw gweithredu parthau rheoli a chyfyngiadau symud rhywogaethau sy'n agored i niwed o fewn y parthau hyn.
Fodd bynnag, dylai perchnogion da byw ddilyn y cyngor hwn i reoli lledaeniad y Tafod Glas.
- Gall perchnogion anifeiliaid cnoi cil ac anifeiliaid sy'n perthyn i deulu'r camel helpu i leihau lledaeniad posibl y tafod glas drwy wirio iechyd eu hanifeiliaid ac adrodd am unrhyw arwyddion clinigol amheus.
- Rhaid cofrestru pob da byw gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) ac Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Gallwch wneud hyn ar-lein yn https://www.llyw.cymru/sut-i-gael-rhif-daliad-cph
- Rhaid i chi gofrestru'r holl dir ac adeiladau a ddefnyddir i gadw da byw, hyd yn oed rhenti tymor byr, fel y gellir olrhain lleoliad anifeiliaid sy'n agored i niwed i helpu i atal a rheoli clefydau.
- Dim ond gyda thrwydded briodol y gall anifeiliaid ar safle sydd wedi'i gyfyngu o ran y tafod glas ac anifeiliaid mewn rhai parthau rheoli clefydau symud.
- Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn cynnal gwyliadwriaeth i wirio am glefyd. Gall hyn gynnwys samplu gwaed ar ddaliadau gydag anifeiliaid sy'n agored i niwed mewn ardaloedd risg uchel ac mewn parthau rheoli clefydau.
Mae tri brechlyn BTV-3 ar gael i'w defnyddio yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, yn amodol ar drwydded. Mae dau o'r rhain wedi cael awdurdodiad marchnata yn y DU gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol. Caiff ffermwyr eu hannog i ystyried brechu eu da byw a allai gael yr haint.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Church - Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio: "Mae cadarnhau achosion o'r Tafod Glas ym Mhowys yn bryder difrifol, ac rydym yn annog pob perchennog da byw i barhau i fod yn wyliadwrus.
"Mae canfod yn gynnar ac adrodd yn gyflym yn hanfodol i helpu i atal lledaeniad y clefyd hwn a diogelu iechyd anifeiliaid ledled y sir.
"Mae ein Tîm Iechyd Anifeiliaid yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i fonitro'r sefyllfa, ac rydym yn annog ffermwyr i ymgyfarwyddo â'r symptomau a chymryd mesurau ataliol priodol, gan gynnwys ystyried brechu.
"Gyda'n gilydd, gallwn helpu i ddiogelu cymunedau ffermio a da byw Powys."
Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach ar y tafod glas ar wefan Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/iechyd-anifeiliaid