Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol

drugs

Lleihau'r ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau ar hyd a lled Powys yw ein nod, ac annog pobl i gael cymorth i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn.

Gwnawn hyn mewn partneriaeth gyda'r sefydliadau a'r gwasanaethau cymorth ar-lein canlynol.

Mae Kaleidoscope yn darparu cymorth a chefnogaeth i oedolion sy'n byw ym Mhowys sy'n cam-drin alcohol a chyffuriau.

Adferiad - yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar gyfer pobl ifanc sy'n byw ym Mhowys sydd ar hyn o bryd yn cael anawsterau gyda defnyddio Cyffuriau neu Alcohol.

Maent yn cynnig gofal unigol, gan gynnig lefel gymorth sy'n berthnasol i anghenion pob unigolyn.

Gall hyn gynnwys:

  • Cyngor
  • Eiriolaeth
  • Cwnsela/cymorth therapiwtig sy'n defnyddio dulliau gwaith amrywiol
  • Gwasanaethau 'Haen 2', megis cyfnewid nodwyddau, aciwbigiad, a mynediad at weithgareddau gwrthdyniadol
  • Yn ddiweddar mae Kaleidoscope wedi cyflwyno nacsolon, y gellir mynd ag ef adref
  • Profion BBV
  • Dadwenwyno a gefnogir yn y gymuned

Sut gallaf gael cymorth?

Gellir hunan-atgyfeirio neu ofyn i feddyg neu weithiwr cymdeithasol eich atgyfeirio.  Cedwir pob atgyfeiriad yn gyfrinachol.

I hunanatgyfeirio, cysylltwch â:

Kaleidoscope Powys neu Adferiad