Cymorth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol
Lleihau'r ddibyniaeth ar alcohol a chyffuriau ar hyd a lled Powys yw ein nod, ac annog pobl i gael cymorth i fyw bywydau iachach a mwy cyflawn.
Mae Kaleidoscope yn darparu cymorth a chefnogaeth i oedolion sy'n byw ym Mhowys sy'n cam-drin alcohol a chyffuriau.
Mae CAIS yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc sy'n byw ym Mhowys ar gymorth i reoli'u defnydd o alcohol a chyffuriau.
Yr hyn y gallwn ni ei gynnig
Byddwn yn darparu gofal i'r unigolyn, gan gynnig y lefel briodol o gymorth ar gyfer pob unigolyn.
Gallai hynny gynnwys:
- cyngor
- eiriolaeth
- cymorth cwnsela/therapiwtig gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
- gwasanaethau 'haen 2', er enghraifft cyfnewid nodwyddau, acwbigo a mynediad at weithgareddau tynnu sylw oddi ar yr alcohol a'r cyffuriau
- Mae Kaleidoscope wedi cyflwyno system mynd â naloxone gartref yn ddiweddar
Hefyd mae gweithwyr Diagnosis Deuol yn y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol sy'n cynorthwyo pobl â phroblemau cyffuriau/alcohol a salwch meddwl difrifol sy'n parhau.
Sut alla' i gael help?
Gallwch eich atgyfeirio eich hunan neu ofyn i feddyg neu weithiwr cymdeithasol eich atgyfeirio. Bydd pob atgyfeiriad yn gyfrinachol.
I hunanatgyfeirio, cysylltwch â: