Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Cyngor yn ei gwneud hi'n haws ymgeisio am swyddi

Image of the Easy Apply HGV job advert

9 Hydref 2025

Image of the Easy Apply HGV job advert
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno proses recriwtio newydd hawdd i unrhyw un sy'n ymgeisio am swyddi gyrru cerbydau nwyddau trwm (HGV).

Mae'r cyngor yn chwilio am yrwyr HGV cymwys i ymuno â'r timau gwastraff ac ailgylchu prysur ledled Powys, ond yn bennaf yng ngogledd y sir. Bydd gan yrwyr y cyfle i yrru amrywiaeth o gerbydau a byddant yn elwa o'r canlynol:

  • Cyfraddau cyflog da, ynghyd â chyfleoedd ar gyfer goramser
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • 25 diwrnod o wyliau'r flwyddyn, yn cynyddu i 29 ar ôl 5 mlynedd
  • Mynediad at amrywiaeth o fuddion, cynigion a gostyngiadau i weithwyr
  • Hyfforddiant llawn a chyrsiau CPC
  • Gwisg lawn wedi'i darparu, gan gynnwys esgidiau ac offer amddiffyn personol
  • Tîm cyfeillgar ac ymroddedig
  • Gweithio mewn gwasanaeth sy'n perfformio'n dda gan wneud Powys yn arweinydd mewn ailgylchu
  • Cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith

Os ydych chi'n credu bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn rhan o'n tîm, defnyddiwch yr opsiwn ymgeisio hawdd nawr. Mae'n syml ac ni fydd yn cymryd yn hir:

  • Ewch i: Swyddi a hyfforddiant
  • Ateb ychydig o gwestiynau syml
  • Lanlwythwch eich CV neu os nad oes gennych un, gallwch ddweud wrthym amdanoch chi'ch hun mewn ychydig o frawddegau byr
  • Os ydych chi'n bodloni'r meini prawf, byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet dros Bowys Wyrddach: "Os oes gennych drwydded HGV, ac yr hoffech ymuno â'n tîm, rydym wedi ei gwneud hi'n haws i chi wneud cais am un o'n swyddi.

"Mae angen mwy o yrwyr ar ein timau gwastraff ac ailgylchu i helpu i ddarparu'r gwasanaeth rheng flaen hanfodol i bob aelwyd ym Mhowys. Mae recriwtio gyrwyr cerbydau nwyddau trwm wedi bod yn anodd iawn i bob sefydliad a busnes ers nifer o flynyddoedd, a dyna pam rydym wedi gwneud ein proses ymgeisio yn haws i'r rhai sydd â diddordeb mewn dod i weithio i ni.

"Os ydych chi'n credu bod gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn rhan o'n tîm ond efallai nad oes gennych chi amser i straenio dros ffurflen gais hir, bydd y broses symlach newydd hon yn berffaith i chi. Gallwch ddweud wrthym pam eich bod chi'n iawn ar gyfer y swydd mewn ychydig o gamau syml, ac os ydych chi'n bodloni'r meini prawf, gallwn eich croesawu i'r tîm, yn gyflym."

Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol a chynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu ffynnu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan fenywod, pobl o gymunedau ethnig amrywiol, unigolion LGBTQ+, pobl anabl, a'r rhai o grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dechreuwch eich cais heddiw yn Swyddi a hyfforddiant

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu