Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyngor yn ceisio aelod i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau

Image of County Hall

10 Hydref 2025

Image of County Hall
Mae'r cyngor wrthi'n chwilio am unigolyn arall i helpu Cyngor Sir Powys gynnal safonau aelodau'r Cyngor a'r cynghorau tref a chymuned leol.

Mae gan y cyngor sir Bwyllgor Safonau gyda naw aelod - pedwar cynghorydd sir a phum aelod annibynnol neu 'leyg' - ac mae'n chwilio am aelod annibynnol i ymuno â'r pwyllgor.

Mae gan y pwyllgor bwerau i gynnal gwrandawiadau i achosion o gamymddwyn a gorfodi cosb. Mae ganddo hefyd is-bwyllgor o aelodau annibynnol sy'n ymdrin â safonau sy'n gysylltiedig â chynghorau tref a chymuned y sir.

Mae'r Pwyllgor Safonau yn rhan bwysig o'r broses ddemocrataidd leol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn ffi lwfans dyddiol o £105 am hanner diwrnod neu £210 am ddiwrnod llawn yn ogystal â chostau teithio.

Nid oes angen unrhyw gymwysterau addysgiadol neu broffesiynol swyddogol, ond dylai fod gan ymgeiswyr ddiddordeb mewn cynnal a hyrwyddo safonau uchel, dealltwriaeth am faterion lleol, meddu ar farn gadarn a sgiliau cyfathrebu da.

Bydd y pwyllgor yn cyfarfod tair neu bedair gwaith y flwyddyn fel rheol, ond gall gyfarfod yn amlach os oes angen.

Gall unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl ddarganfod rhagor o fanylion yma neu gallwch gysylltu â Chlerc y Pwyllgor Safonau ar 01597 826206 neu anfon e-bost at: carol.johnson@powys.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Tachwedd 2025.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu