Ymgynghoriad ar gyfer safle Sipsiwn a Theithwyr wedi'i ymestyn

9 Hydref 2025

Roedd i fod i gau am 5pm ddydd Mercher 22 Hydref, ond bydd bellach yn aros ar agor tan 5pm ddydd Gwener 31 Hydref.
Mae chwe safle posibl ar dir sy'n eiddo i Gyngor Sir Powys yn Tre'r Llai, Ffordun a'r Ystog wedi'u nodi, gyda barn yn cael ei cheisio ar eu haddasrwydd.
Dywedodd y Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys ac Aelod Cabinet ar gyfer Pobl, Perfformiad a Phartneriaethau: "Rydym hefyd yn croesawu cyflwyniadau ar safleoedd amgen posibl yn ardal y Trallwng, a fyddai'n bodloni'r gofyniad i ddarparu lle i 12 cartref symudol, gyda lle i ehangu ymhellach. "Rydym yn cymryd yr amser i wrando ar farn pawb ac eisiau caniatáu mwy o amser i'r sgwrs ddwyffordd hon ddigwydd."
Sefydlwyd yr angen am y llety ychwanegol yn ystod gwaith ar Gynllun Datblygu Lleol newydd Powys 2022-2037, sy'n nodi sut y dylid defnyddio tir yn y sir.
Ychwanegodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Powys ac aelod o'r Cabinet ar gyfer Powys Decach: "Mae gennym ddyletswydd o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i asesu anghenion llety ein cymunedau Sipsiwn a Theithwyr, ac nid oes lle i ehangu ar y safle presennol sy'n cael ei redeg gan y cyngor y tu allan i'r Trallwng, yn Leighton Arches.
"Pe baem yn methu â chymryd y camau gweithredu yr ydym yn eu cymryd nawr, byddem yn torri ein rhwymedigaethau cyfreithiol, sydd ar waith i atal hiliaeth, gwahaniaethu a rhagfarn."
Gellir cyflwyno ymatebion drwy ganolfan ymgynghori ac ymgysylltu'r cyngor: https://www.dweudeichdweudpowys.cymru/opsiynau-safleoedd