Adeiladu dyfodol dwyieithog - canolfan drochi newydd i agor yn Ne Powys
13 Hydref 2025
Mae Canolfan Iaith Brycheiniog a Maesyfed yn gam sylweddol ymlaen yn ymrwymiad Cyngor Sir Powys i ehangu addysg ddwyieithog.
Wedi'i lleoli yn Ysgol y Bannau, Aberhonddu, bydd y ganolfan yn cynnig amgylchedd deinamig a chefnogol lle gall disgyblion ddatblygu rhuglder yn y Gymraeg drwy raglen ddwys, ymgysylltiol.
Gan agor ym mis Tachwedd, bydd y ganolfan yn cynnig darpariaeth 'trochi' arbenigol i ddysgwyr ym Mlynyddoedd 2 i 6 sy'n dymuno pontio i addysg cyfrwng Cymraeg. Bydd y ganolfan yn darparu rhaglen 12 wythnos, sy'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Iau, gyda disgyblion yn dychwelyd i'w hysgolion cartref ar ddydd Gwener.
Bydd dysgwyr yn elwa o amgylchedd meithringar a chynhwysol, lle byddant yn derbyn gwersi iaith dwys wedi'u cynllunio i adeiladu rhuglder, hyder a mwynhad wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu patrymau llafaredd ac iaith drwy brofiadau deniadol, bywiog ar draws y cwricwlwm.
Mae sefydlu canolfannau trochi cyfrwng Cymraeg yn elfen allweddol yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESP) y cyngor, sy'n cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dywedodd y Cynghorydd James Gibson-Watt, Aelod Cabinet dros Bowys sy'n Dysgu: "Mae agor Canolfan Iaith Brycheiniog a Maesyfed yn gyfle gwych i blant yn Ne Powys groesawu'r Gymraeg a dod yn ddysgwyr dwyieithog hyderus.
"Mae'r ddarpariaeth hon yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o adeiladu dyfodol dwyieithog i'n sir ac yn cefnogi ein hymrwymiad at y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a'r nod cenedlaethol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Rydym yn benderfynol o wneud addysg cyfrwng Cymraeg yn hygyrch i fwy o deuluoedd, ac mae cymorth trochi o ansawdd uchel fel hyn yn allweddol i wireddu dwyieithrwydd i ddysgwyr ledled Powys."
Gall rhieni sydd â diddordeb i'w plant gael mynediad i'r ganolfan e-bostio trochi@powys.gov.uk am ragor o wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am addysg drochi a darpariaeth y Ganolfan Iaith ar gael yn Canolfan Iaith
I gael gwybod mwy am addysg cyfrwng Cymraeg, ewch i Addysg Cyfrwng Cymraeg
