Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd i rieni - doliau Labubu ffug ar gael ledled Powys

Image of fake Labubu toys

15 Hydref 2025

Image of fake Labubu toys
Mae mwy o deganau Labubu ffug wedi cael eu hatafaelu o siopau a stondinau marchnad ledled Powys, ychydig fisoedd ar ôl i dros 500 gael eu tynnu oddi ar y farchnad yn Sioe Frenhinol Cymru eleni, meddai'r cyngor sir.

Mae'r atafaelu diweddaraf yn dod â chyfanswm nifer y doliau Labubu ffug a atafaelwyd gan Wasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Powys i fwy na 600.

Mae doliau Labubu - ffigurau od fel ellyllod bach, a wnaed yn enwog gan y brand Tsieineaidd Pop Mart - wedi dyfod i fod yn hynodrwydd feiral, ac maen nhw i'w gweld yn aml yn hongian ar  fagiau llaw selebs. Ond mae eu poblogrwydd hefyd wedi ysgogi llifogydd o ddynwaredau rhad a pheryglus.

Canfuwyd bod y doliau a gafodd eu hatafaelu, yn ffug. Mae profion diogelwch dilynol wedi dangos bod perygl tagu difrifol gan y doliau oherwydd rhannau bach y gellir eu tynnu, gan eu gwneud yn anniogel i blant a'u bod yn torri rheoliadau diogelwch.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Diogel: "Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu defnyddwyr, yn enwedig plant, rhag cynhyrchion anniogel ac anghyfreithlon.

"Er eu bod yn aml yn rhatach, gallai fersiwn ffug o Ddoliau Labubu achosi risgiau sylweddol i iechyd a diogelwch plant. Os ydych chi wedi prynu un o'r teganau hyn yn ddiweddar, gwiriwch e'n ofalus."

Mae Gwasanaeth Safonau Masnach y cyngor yn annog rhieni a gwarcheidwaid i fod yn ofalus a dilyn y cyngor isod os ydynt yn ystyried prynu Doliau Labubu:

  • Gwiriwch y deunydd pacio ar gyfer nod UKCA neu CE a sicrhewch fod mewnforiwr neu wneuthurwr yn y DU yn cael ei restru. Dylai rhybuddion a chyfarwyddiadau defnyddio fod yn bresennol.
  • Chwiliwch am nod dilysrwydd ar ddoliau Labubu Pop Mart, gan gynnwys sticer holograffig, cod QR y gellir ei sganio sy'n cysylltu â'r wefan swyddogol, a stamp UV ar un droed (ar ddoliau mwy newydd).
  • Archwiliwch ymddangosiad y tegan- mae arwyddion ffug yn cynnwys lliwiau sy'n rhy llachar, pwythu gwael, neu'r nifer anghywir o ddannedd (mae gan ddoliau dilys naw dant).
  • Byddwch yn wyliadwrus o "fargeinion" - mae prisiau is yn aml yn golygu risgiau uwch.
  • Prynwch gan fanwerthwyr y gellir ymddiried ynddynt ac osgowch werthwyr ar-lein anghyfarwydd neu werthwyr trydydd parti ar blatfformau masnachu.

I roi gwybod am bryderon, cysylltwch â Safonau Masnach Powys drwy e-bostio trading.standards@powys.gov.uk neu ffoniwch Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 123 1133.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu