Gwaith diogelwch i'w wneud ar gofebion simsan ym mynwentydd y cyngor

15 Hydref 2025

Yn gynharach eleni, bu'r cyngor yn goruchwylio rhaglen archwilio cofebion ar draws ei fynwentydd, gyda chofebion yn cael eu hasesu a'u gosod mewn un o dri chategori:
- Categori 1 (Coch): Anniogel ac angen sylw ar unwaith
- Categori 2 (Ambr): Simsan ond ddim yn risg yn y tymor buan
- Categori 3 (Gwyrdd): Sefydlog a dim angen gweithredu
Gwnaed cofebion Categori 1 yn ddiogel ar adeg yr archwiliad, a rhoddwyd hysbysiadau coch dwyieithog arnynt.
Marciwyd cofebion Categori 2 gyda hysbysiadau ambr dwyieithog, i nodi eu bod yn simsan a bod angen eu hatgyweirio. Os na chafodd y cofebion hyn eu hatgyweirio o fewn chwe mis i'r archwiliad, byddent yn cael eu gosod yn wastad neu'n cael eu diogelu mewn ffyrdd priodol eraill.
Mae'r cyfnod hwn o chwe mis bellach wedi pasio. O fis Tachwedd ymlaen, bydd contractwr y cyngor yn dechrau ailymweld â chofebion Categori 2 i wneud y gwaith hwn.
Bydd arwyddion gwybodaeth dwyieithog yn cael eu gosod wrth fynedfeydd y fynwent cyn dechrau'r gwaith i hysbysu ymwelwyr.
Meddai'r Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet Powys Fwy Diogel: "Rydym yn deall pa mor bwysig yw cofebion i deuluoedd, ac rydym am roi pob cyfle i bobl wneud y gwaith atgyweirio angenrheidiol. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein mynwentydd yn parhau i fod yn fannau diogel i bawb ymweld â nhw.
"Os nad yw cofeb Categori 2 wedi'i hatgyweirio, ni fydd gennym ddewis ond ei gosod yn wastad neu ei gwneud yn ddiogel mewn ffordd arall."
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Gwasanaeth Diogelu'r Amgylchedd yn y cyngor drwy ebostio environmental.protection@powys.gov.uk neu ffonio 01938 551300.